Storm Fawr 1859
Storm Fawr 1859 neu Storm y Royal Charter oedd y storm enbytaf, efallai, a gofnodwyd yng Nghymru. Dechreuodd y gwynt chwythu'n gryf yn ystod prynhawn 25 Hydref, a chyrhaeddodd ei anterth yn ystod noson 25/26 Hydref, pan gyrhaeddodd y gwynt raddfa 12 neu efallai 13 ar raddfa Beaufort. Ar y cychwyn roedd y gwynt yn chwythu o’r dwyrain, ond yna newidiodd ei gyfeiriad i’r gogledd-ddwyrain ac yna tua’r gogledd.
Enghraifft o'r canlynol | storm |
---|---|
Dyddiad | Hydref 1859 |
Dechreuwyd | 25 Hydref 1859 |
Daeth i ben | 26 Hydref 1859 |
Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Achoswyd tua 133 o longddrylliadau ar arfordir Cymru ac ardaloedd cyfagos yn Lloegr y noson honno, gyda tua 90 arall yn dioddef difrod sylweddol. Lladdwyd tua 800 o bobl i gyd, yn cynnwys rhai a laddwyd gan effeithiau'r storm ar y tir. Yr enwocaf o'r llongddrylliadau oedd y Royal Charter, a ddrylliwyd ger Moelfre ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn ar ei ffordd o Awstralia i Lerpwl. Collwyd dros 450 o fywydau yn y Royal Charter yn unig.
Gwnaed difrod mawr i adeiladau hefyd; yr enghraifft enwocaf oedd dinistrio eglwys Dinas, Sir Benfro.