Richard Gere

cyfarwyddwr ffilm a chynhyrchydd a aned yn Philadelphia yn 1949

Actor Americanaidd yw Richard Tiffany Gere [1] (ganwyd 31 Awst 1949). Dechreuodd actio yn ystod y 1970au a daeth i enwogrwydd ym 1980 am ei rôl yn y ffilm American Gigolo. Yn ystod ei yrfa, mae ef wedi serennu mewn nifer o ffilmiau llwyddiannus gan gynnwys An Officer and a Gentleman, Pretty Woman, Primal Fear, a Chicago, pan enillodd Wobr Golden Globe am yr Actor Gorau yn ogystal â Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrin am y Cast Gorau.

Richard Gere
Ganwyd31 Awst 1949 Edit this on Wikidata
Philadelphia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Massachusetts Amherst
  • Cicero – North Syracuse High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor ffilm, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, amddiffynnwr hawliau dynol, actor teledu, actor llwyfan, ffotograffydd, actor llais Edit this on Wikidata
Blodeuodd2018 Edit this on Wikidata
TadHomer George Gere Edit this on Wikidata
MamDoris Anna Tiffany Edit this on Wikidata
PriodCindy Crawford, Carey Lowell, Alejandra Silva Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Donostia, Marian Anderson Award, Geuzenpenning, Gwobr Gwirionedd y Goleuni, Gwobr James Parks Morton am Rannu Ffydd, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr Golden Globe am Actor Gorau - Ffilm Sioe-gerdd neu Gomedi, Gwobr David di Donatello am yr Actor Estron Gorau, Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Broadcast ar gyfer Cast Gorau, Gwobr Urdd Actorion Sgrin ar gyfer Perfformiad Eithriadol gan Cast mewn Ffilm Nodwedd Edit this on Wikidata

Ei fywyd cynnar golygu

Ganwyd Gere yn Philadelphia, Pennsylvania yn ddisgynnydd i Bererinwyr y Mayflower Francis Eaton, John Billington, George Soule, Richard Warren, Degory Priest, William Brewster a Francis Cooke.[1] Gwraig tŷ oedd ei fam, Doris Anna Tiffany ac asiant yswiriant oedd ei dad, Homer George Gere. Mae gan Gere dair chwaer ac un brawd. Ym 1967, graddiodd o Ysgol Uwchradd Ogledd Syracuse, Efrog Newydd lle rhagorai mewn gymnasteg a cherddoriaeth, gan chwarae'r trwmped. Mynychodd Brifysgol Amherst Massachusetts, gan ganolbwyntio ar athroniaeth. Fodd bynnag, ni raddiodd a gadawodd ar ôl dwy flynedd.[2]

Ffilmiau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "The New England Ancestry of Actor Richard (Tiffany) Gere" Archifwyd 2006-12-15 yn y Peiriant Wayback. Roberts, Gary Boyd. New England Historic Genealogical Society. 2007-01-12
  2. BiographyChannel "Richard Gere Biography" Archifwyd 2007-05-29 yn y Peiriant Wayback., Carey Latimore, The Biography Channel. Adalwyd ar 1 Mai, 2008.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.