Richard Green-Price

Roedd Syr Richard Green Price, barwnig 1af (18 Hydref 180311 Awst 1887) yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol dros Bwrdeistref a Sir Faesyfed.

Richard Green-Price
Ganwyd18 Hydref 1803 Edit this on Wikidata
Bu farw11 Awst 1887 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadGeorge Green Edit this on Wikidata
MamMargaret Price Edit this on Wikidata
PriodFrances Milborough Dansey, Laura King Edit this on Wikidata
PlantConstance Mary Green-Price, Sir Richard Dansey Green-Price, 2nd Bt., Edith Mary Green-Price, Fanny Laura Green-Price, Henrietta Margaret Green-Price, Milburga Price Green-Price, Laura Green-Price, Alice Mildred Green-Price, Herbert Chase Green-Price, Francis Richard Green-Price, Alfred Edward Green-Price, George William Whitmore Green-Price Edit this on Wikidata

Bywyd Personol

golygu

Ganwyd Price yn Canon Bridge, Swydd Henffordd, yn ail fab i George Green, a Margaret, merch Richard Price, Norton Manor, Trefyclo.

Ym 1808 symudodd y teulu Green i fyw i Drefyclo.

Brawd Mrs Margaret Green oedd Richard Price AS Bwrdeistref Maesyfed 1798-1846, pan fu farw ef ym 1861 etifeddodd George, brawd hŷn Richard, ei ystâd. Ar farwolaeth George ym 1874 aeth yr ystâd i Richard a mabwysiadodd y cyfenw ychwanegol Price yn ôl telerau ewyllys ei ewythr.

Bu'n briod ddwywaith. Ym 1837 priododd Frances Melbrough Dansey merch D R Dansey, Henffordd; bu iddynt fab a merch a fu byw; bu hi farw ym 1842. Ym 1844 priododd Laura, merch Dr R H King, Mortlake, Surrey, bu iddynt bedwar mab a chwe merch.[1] Priododd Edith, un o'i ferched, a Syr Powlwett Milbank AS Sir Faesyfed 1895-1900.

Wedi ymadael a'r ysgol cafodd Richard Green ei brentisio fel cyfreithiwr yng Nghaerwrangon. Wedi gyflawni ei erthyglau a chymhwyso fel cyfreithiwr symudodd Green yn ôl i Drefyclo i sefydlu cwmni cyfreithiol Green and Peters. Yn ogystal â gweithio fel cyfreithiwr cefn gwlad, gwelodd Green cyfleon busnes i wella Drefyclo er budd corfforaethau ac unigolion, gan gynnwys ef ei hun.

Ym 1850 daeth yn drysorydd Sir Faesyfed. Ym 1853 daeth yn aelod o Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Maesyfed a sefydlwyd i sicrhau dŵr glan a charthffosiaeth i'r sir, bu'n weithgar i sicrhau buddsoddiadau byddai'n cysylltu Sir Faesyfed a'r rhwydwaith rheilffordd ac i fuddsoddi mewn siopau a busnesau eraill yn Nhrefyclo a'r sir gan gynnwys troi Llandrindod i Llandrindod Wells, cyrchfan i ymwelwyr Fictoraidd oedd am dderbyn les iachusol y dŵr lleol.[2]

Trwy ei etifeddiaeth a'i fuddsoddiadau daeth yn berchennog ar ystâd oedd yn cynhyrchu elw iddo o tua £8 mil y flwyddyn erbyn 1863 (ffortiwn ar y pryd, gwerth tua £7 miliwn o gymharu statws ffortiwn ym 1863 a'r statws cyffelyb yn 2014)[3]

Gyrfa wleidyddol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "DEATH OF SIR RICHARD GREEN PRICE - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1887-08-12. Cyrchwyd 2015-12-07.
  2. Radnorshire Society transactions - Vol. 55 1985 Sir Richard Green Price of Norton Manor (1807-1887) - Cylchgronau Cymru LLGC adalwyd 7 Rhagfyr 2015
  3. Measuring Worth . adalwyd 7 Rhagfyr 2015