Richard Griffith (Carneddog)

bardd, llenor, a newyddiadurwr

Llenor, bardd a newyddiadurwr o Gymru oedd Richard Griffith (26 Hydref 186125 Mai 1947), sy'n adnabyddus wrth ei enw barddol, Carneddog.[1]

Richard Griffith
'Carneddog a'i wraig cyn gadael eu hen gartref yn Eryri.' Llun eiconig Geoff Charles (1945).
FfugenwCarneddog Edit this on Wikidata
Ganwyd26 Hydref 1861 Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mai 1947 Edit this on Wikidata
Man preswylCarneddi Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, newyddiadurwr, ffermwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed Carneddog yn 1861 yn ffermdy Y Carneddi, plwyf Nantmor, ger Beddgelert, Gwynedd. Bu'r ffermdy yn gartref i'w hynafiaid am genedlaethau a bu Carneddog yn byw yno ar hyd ei oes hyd 1945 pan symudodd ef a'i wraig i fyw yn nhŷ eu mab yn Hinckley, yn Swydd Gaerlŷr, Lloegr. Mae'r llun a dynodd y ffotograffydd Cymreig Geoff Charles o Garneddog a'i wraig ar riniog ei hen ffermdy yn ffarwelio ag Eryri yn cael ei ystyried gan lawer yn llun eiconig sy'n cynrychioli'r newid mawr a ddaeth i'r Gymru Gymraeg yn yr 20g. Bu farw Carneddog yn swbwrbia Hinckley ddwy flynedd ar ôl gadael Eryri.[1]

Gwaith llenyddol

golygu

Ffermwr defaid oedd Carneddog o ran ei waith, ond cyfranodd nifer o erthyglau i gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg yn cynnwys Baner ac Amserau Cymru, Y Genedl Gymreig, a'r Herald Cymraeg. Er na chafodd ond ychydig o addysg ffurfiol, roedd yn hyddysg yn hanes ei fro. Cyhoeddodd sawl llyfr Cymraeg, yn cynnwys cofiannau i Richard Owen (Glaslyn) a John Jones (Jac Glan-y-Gors). Roedd yn fardd yn ogystal.[1]

Llyfryddiaeth ddethol

golygu

Llyfrau Carneddog

golygu
  • Gwreichion y Diwygiadau (Llyfrau ab Owen, 1905)
  • Gwaith Glan y Gors (golygydd Cyfres y Fil, 1905)
  • Blodau'r Gynghanedd
  • Cerddi Eryri (1927)
  • Ceinion y Cwm

Llyfrau amdano

golygu

Cyfeiriadau

golygu