Richard Henry Rees
Ffermwr a baswr oedd Richard Henry Rees neu Richard Rees (1926 – 4/5 Hydref 2003). Symudodd ei deulu o Gorris i Bennal pan oedd yn ddeuddeg oed, lle bu'n ffermio ar fferm "Penmaenbach", ym Mhennal, Gwynedd.[1] Fe'i ystyrir yn un o gantorion gorau ei oes a cheir sawl recordiad o'i lais.[2][3]
Richard Henry Rees | |
---|---|
Ganwyd | 1926 |
Bu farw | 5 Hydref 2003 |
Galwedigaeth | ffermwr, canwr |
Er iddo gael cynnig lle mewn coleg yn Llundain, penderfynnodd aros ar y fferm i weithio. Ef oedd y cyntaf erioed i ennill y Rhuban Glas ddwywaith: yn dod yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1952 pan ganodd "Y Dymestl" a'r ail ym Mhwllheli, dair blynedd yn ddiweddarach. Cafodd gyfnod fel prif faswr Cwmni Opera Cymru ac roedd ganddo raglenni ei hun ar y BBC ac ITV.
Cysylltir Dic gyda'r "Dymestl", "Y Marchog", "Brad Dynrafon" ac "Aros Mae'r Mynyddau Mawr". Troediodd lwyfannau mwya'r byd ac ymhlith yr operâu y bu'n rhan ohonynt y mae:
- The Erl King (Schubert)
- Y Prolog i Pagliacci (Leon Cavallo)
- II Lacerato Spirito (Verdi)
- Non Piu Andrai (Mozart)
- Honour and Arms (Handel)
- Thus Saith The Lord (Handel)
- The Barber of Seville (Gioachino Rossini)
Fe'i claddwyd ym mynwent gron Eglwys Pennal.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan BBC Cymru[dolen farw]; "Cawr, Cymro a Chyfaill"; Tachwedd 20013; adalwyd 25 Ionawr 2014
- ↑ Albwm: Richard Rees Y Baswr o "Benmaenbach", Pennal ar wefan Welsh Gifts[dolen farw]; adalwyd 25 Ionawr 2014
- ↑ SAIN (RECORDIAU) CYF Archifwyd 2014-07-01 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 25 Ionawr 2014