Richard Hughes (nofelydd)
Roedd Richard Hughes (19 Ebrill 1900 – 28 Ebrill 1976)[1] yn nofelydd a bardd yn yr iaith Saesneg ac yn gymydog i Dylan Thomas ym mhentref Talacharn. Ysgrifennodd hefyd nifer o storiau byrion a dramâu.[2]
Richard Hughes | |
---|---|
Ganwyd | Richard Arthur Warren Hughes 19 Ebrill 1900 Weybridge |
Bu farw | 28 Ebrill 1976 Talsarnau |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, bardd, nofelydd, llenor, dramodydd, sgriptiwr |
Adnabyddus am | A High Wind in Jamaica, Danger |
Tad | Arthur Hughes |
Mam | Louisa Grace Warren |
Priod | Frances Catharine Ruth Bazley |
Plant | Robert Elystan-Glodrydd Hughes, Penelope Hughes, Lleky Susannah Hughes, Catherine Phyllida Hughes, Owain Gardner Collingwood Hughes |
Gwobr/au | OBE, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol |
Ganwyd yn Walton-on-Thames, Surrey. Gwas sifil oedd ei dad Arthur a ganed ei fam Louisa Grace Warren yn Jamaica. Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Charterhouse, Godalming, Surrey a graddiodd yng Ngholeg Oriel, Rhydychen yn 1922.
Yn Rhydychen cyfarfu Robert Graves, a chyd-olygodd y ddau gylchgrawn ar farddoniaeth (Oxford Poetry) yn 1921. Sgwennodd ddrama fer The Sisters' Tragedy a lwyfanwyd yn Theatr y Royal Court, yn y West End yn 1922. Ef hefyd oedd y cyntaf i sgwennu drama radio; comisiynwyd Danger gan y BBC a chafodd ei darlledu ar 15 Ionawr 1924. Bu farw yn Nhalsarnau, Gwynedd
Llyfryddiaeth
golygu- A High Wind in Jamaica (1929)
- In Hazard
- The Fox in The Attic
- The Wooden Shepherdess
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan http://stainedglass.llgc.org.uk/; Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
- ↑ Richard Perceval Graves: Richard Hughes. A biography. London: A. Deutsch, 1994.