Richard Jones (Cymro Gwyllt)

gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a llenor

Emynydd Cymraeg ac awdur ar bynciau diwinyddol oedd Richard Jones (Ionawr 177226 Chwefror 1833), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Cymro Gwyllt.

Richard Jones
Ganwydc. 1772 Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd11 Ionawr 1772 Edit this on Wikidata
Bu farw26 Chwefror 1833 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed Richard Jones ym mhlwyf Llanystumdwy, Eifionydd, yn 1772, ond symudodd i fyw yn Y Wern, yn Llanfrothen, Meirionnydd. Fe'i orddeinwyd yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1816 a gwasanaethodd yn Llanfrothen.

Perthynai i gylch llenyddol Dafydd Ddu Eryri. Ysgrifennodd yn gyson i'r wasg enwadol a chyfranodd i ddaleuon diwinyddol yr oes. Ond fe'i cofir heddiw fel emynydd yn bennaf.

Llyfryddiaeth golygu

  • Drych y Dadleuwr (1829). Diwinyddiaeth.
  • Hymnau a Chaniadau Ysgrythurol a Duwiol (1836). Golygwyd a chyhoeddwyd gan John Elias ar ôl marwolaeth Richard Jones.

Gweler hefyd golygu