Richard Tottel
Cyhoeddwr o Sais oedd Richard Tottel (1528 neu gynt – 1593)[1] sydd yn nodedig am gasglu, gyda'r bardd Nicholas Grimald, y flodeugerdd Songes and Sonettes (1557)—a elwir Tottel's Miscellany—sy'n cynnwys prif weithiau Henry Howard, Iarll Surrey, Syr Thomas Wyatt, a beirdd eraill o Oes y Tuduriaid.
Richard Tottel | |
---|---|
Ganwyd | 1530 |
Bu farw | 1594 |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | cyhoeddwr |
Tad | William Tothill |
Roedd Richard Tottel yn drydydd fab i'r gwerthwr pysgod cefnog William Tothill a'i wraig Elizabeth o Gaerwysg, Dyfnaint, Teyrnas Lloegr. Aeth yn brentis i'r argraffwyr William Middleton a William Powell. Fe'i derbyniwyd yn rhyddfreiniwr Dinas Llundain ac yn aelod o Urdd y Llyfrwerthwyr a'r Cyhoeddwyr ar 19 Ionawr 1552.[1]
Lleolwyd ei fusnes yn The Hand and Star yn y Temple Bar o 1553 hyd at ei farwolaeth. Cyhoeddodd Tottel hefyd Dialoge of Comfort (1553) gan Syr Thomas More a'r Aeneid (1557) gan Iarll Surrey, yn ogystal â llyfrau'r gyfraith.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Anna Greening, "Tottell [Tottel, Tothill], Richard" yn Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 1001.