Rob Evans
Chwaraewr rygbi'r undeb sydd wedi chwarae dros Gymru yw Robert Evans (ganwyd 14 Ebrill 1992). Mae'n chwarae yn safle'r prop. Mae ar hyn o bryd yn chwarae i'r Sgarlets.
Rob Evans | |
---|---|
Ganwyd | 14 Ebrill 1992 Hwlffordd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 185 centimetr |
Pwysau | 118 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru |
Safle | prop |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Mae Evans yn enedigol o Hwlffordd a bu'n chwarae dros Quins Caerfyrddin yn Uwch Adran Cymru cyn chwarae ei gêm ranbarthol gyntaf dros y Sgarlets yn ystod y tymor 2012-13. Daeth i'r cae fel eilydd yn erbyn Sale Sharks yn y Cwpan Eingl-Gymreig.
Gyrfa ryngwladol golygu
Chwaraeodd Evans yn nhîm dan-20 Cymru a gyrhaeddodd y trydydd safle ym Mhencampwriaeth Iau y Byd IRB 2012 yn Ne Affrica. Roedd yn chwarae yn y rheng flaen ochr yn ochr â Kirby Myhill a Samson Lee o'r Sgarlets.
Cafodd ei alw i uwch-garfan Cymru yn Nhachwedd 2013 ar gyfer gemau rhyngwladol yr hydref.[1]
Ar 20 Ionawr 2015, cafodd ei enwi yng ngharfan 34-dyn Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2015,[2] gan wneud ei ymddangosiad cyntaf pan ddaeth i'r cae ar gyfer ail hanner y gêm yn erbyn Iwerddon.
Dechreuodd Evans bob un gêm heblaw'r un yn erbyn yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019, gan sicrhau'r Gamp Lawn gyntaf i Gymru ers 2012.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Evans yn galw heibio
- ↑ "Wales name 34-man Six Nations squad". WRU. 20 January 2015.