Mae'r Sgarlets (Sgarlets Llanelli cyn 2008) yn dîm ranbarth rygbi'r undeb yng Nghymru, ac yn chwarae yn y Gynghrair Celtaidd, Cwpan Heineken a'r Cwpan Eingl-Gymreig.

Sgarlets

Lliwiau'r Tîm

Gartref

Fwrdd

Prif lliwiau
Ail lliwiau

Rhanbarthau Rygbi Cymru 2004

Pedwar Rhanbarth Rygbi'r Undeb yng Nghymru

Gleision Caerdydd
Caerdydd
Sgarlets Llanelli
Llanelli
Y Gweilch
Abertawe
Castell-
Nedd
Dreigiau Casnewydd Gwent
Casnewydd

Hanes y rhanbarth golygu

Mae Sgarlets yn un o'r pum (nawr pedwar) rhanbarth gwreddiol yn hanes rygbi rhanbarthol Cymru. Hefyd roeddent yn un allan o ddau rhanbarth nad oedd rhaid iddynt gyfuno gyda chlwb arall pan ddaeth y rhanbarthau i fodolaeth yng Nghymru ym myd rygbi'r undeb.

Yn 2003, penderfynodd Undeb Rygbi Cymru newid lefel uchaf rygbi Cymru o naw clwb i bum rhanbarth, yn dilyn llwyddiant system felly yn Iwerddon, Seland Newydd, Awstralia a De Africa. Roedd yn benderfyniad dadleuol ar y pryd, gyda llawer o gefnogwyr yn erbyn y newidiadau.

Yn swyddogol mae Sgarlets yn cynrycholi Gorllewin a Gogledd Cymru gyda rhan fwyaf o'r gemau yn cael eu chwarae yn Llanelli, ag ambell gêm yn Wrecsam.

Fe'i crewyd o'r chwaraewyr llwyddiannus yn Clwb Rygbi Llanelli y tymor cynt, gyda'r rhanbarth yn llwyddiannus yn ei dymor cyntaf. Cyrhaeddon nhw yr wyth olaf (Y Cwarteri) yn Cwpan Heineken ac ennill y Cynghrair Celtaidd. Ond methwyd ailadrodd y llwyddiant hyn yn yr ail dymor oherwydd anafiadau ac i Stephen Jones adael i ymuno â ASM Clermont Auvergne yn Ffrainc. Gorffenon nhw'r tymor yn y 5ed safle yn y Cynghrair ond gan gyrraedd rownd derfynol yng Nghwpan Celtaidd. Yn y trydydd tymor fe fethon nhw gyraedd ail rownd Cwpan Heineken am yr ail dymor a gorffen yn y 6ed safle yn y Cynghrair Celtaidd. Cyrhaeddon nhw rownd derfynol Cwpan Eingl-Gymreig yn Twickenham (2005-6). Mae Stephen Jones yn awr yn ôl yn chwarae gyda'r Sgarlets.

Cartref golygu

Mae Sgarlets yn chwarae y rhan fwyaf o'u gemau ar Barc y Strade yn Llanelli ond maent hefyd wedi chwarae sawl gêm ar Y Cae Ras yn Wrecsam. Yn aml gellir clywed caneuon fel "Calon Lan" a "Sosban Fach" yn y stadiwm.

Cynlluniwyd y tymor 2006/07 fel y tymor olaf y byddai'r Sgarlets yn chwarae eu rygbi ar Barc y Strade, a fydd wedyn yn cael ei ddymchwel ar gyfer datblygiad tai yn yr ardal. Cynllun swyddogol y clwb yw i ddefnyddio'r arian a ddaw o adeuladaeth y tai ar dir Parc y Strade i gyllido adeuladaeth stadiwm newydd ar safle yn Nhrostre. Amcangyfrifwyd y bydd y stadiwm newydd yn costio tua £45miliwn a bydd yn dal 13,500 o bobl. Mae cryn dipyn o wrthwynebiad i'r cynlluniau hyn yn lleol, ac mae problemau ynglŷn â peryg dilyw yn ardal breswyl y datblygiad wedi gohirio'r cynllun nes fod y Cynulliad Cenedlaethol yn caniatau i'r datblygiadau barhau.

Llywydd y clwb oedd Ray Gravell cyn ei farwolaeth. Llywydd newydd y clwb yw Phil Bennett.

Llwyddiannau golygu

Dolenni allanol golygu