Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2015

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2015 oedd y 16fed yng nghyfres Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, sef prif gystadleuaeth rygbi'r undeb yn Hemisffer y Gogledd. Chwaraewyd pymtheg gêm dros gyfnod o bum penwythnos rhwng 1 Chwefror a 15 Mawrth 2015. Caiff ei galw, hefyd, yn "Gystadleuaeth RBS y Chwe Gwlad" oherwydd cyfraniad y noddwyr: Banc Cenedlaethol yr Alban.

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2015
Dyddiad6 Chwefror 2015 – 21 Mawrth 2015
Gwledydd
Ystadegau'r Bencampwriaeth
Pencampwyr Iwerddon (13ed tro)
Cwpan Calcutta Lloegr
Tlws y Mileniwm Iwerddon
Quaich y Ganrif Iwerddon
Tlws Giuseppe Garibaldi Ffrainc
Gemau a chwaraewyd15
Niferoedd yn y dorf1,040,680 (69,379 y gêm)
Ceisiau a sgoriwyd62 (4.13 y gêm)
Sgoriwr y nifer fwyaf
o bwyntiau
Lloegr George Ford (75)
Sgoriwr
y nifer fwyaf
o geisiadau
Lloegr Jonathan Joseph (4)
Chwaraewr y bencampwriaethIreland Paul O'Connell[1]
Gwefan swyddogolSix Nations Website
2014 (Blaenorol) (Nesaf) 2016

Y chwe gwlad oedd Iwerddon, Lloegr, Cymru, Ffrainc, Yr Alban a'r Eidal. Os cyfrifir cyn-gystadleuthau (y Cystadleuthau Cartref a'r Pencampwriaeth y Pum Gwlad) yna dyma 121fed cystadleuaeth.

Iwerddon oedd y pencampwyr, am yr eildro o'r bron, y 13eg buddugoliaeth iddynt. Nhw yw enillydd cyntaf fersiwn newydd o'r tlws arobryn - tlws gyda chwe ochr, yn hytrach na phump.[2]

Torrwyd sawl record yn ystod wythnos olaf y gystadleuaeth pan roedd hi'n gwbwl bosib i un o 4 tîm guro: (Cymru, Ffrainc, Iwerddon a Lloegr) ac yn ystod yr wythnos olaf hefyd sgoriwyd 221 pwynt - y nifer mwyaf o bwyntiau i'w sgorio mewn wythnos ers cychwyn y gystadleuaeth.

Tabl golygu

Safle Gwlad Gemau Pwyntiau Cais Tabl
pwyntiau
Chwaraewyd Enillwyd Cyfartal Collwyd Dros yn erbyn Gwahaniaeth
1   Iwerddon 5 4 0 1 119 56 +63 8 8
2   Lloegr 5 4 0 1 157 100 +57 18 8
3   Cymru 5 4 0 1 146 93 +53 13 8
4   Ffrainc 5 2 0 3 103 101 +2 9 4
5   yr Eidal 5 1 0 4 62 182 −120 8 2
6   yr Alban 5 0 0 5 73 128 −55 6 0
Ffynhonnell: Tabl: RBS y Chwe Gwlad Archifwyd 2015-03-22 yn y Peiriant Wayback. (adalwyd 21 Mawrth 2015)

Ystadegau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ireland captain Paul O'Connell named 2015 Six Nations player of the tournament". skysports.com. Cyrchwyd 27 March 2015.
  2. "Will Ireland be getting their hands on this? New trophy for the RBS Six Nations unveiled". Irish Independent. 28 Ionawr 2015.