Ysgol Syr Thomas Picton

Ysgol gyfun cyfrwng Saesneg yw Ysgol Syr Thomas Picton, a lywodraethir gan Gyngor Sir Benfro. Fe'i lleolir yn Hwlffordd, yn ne Sir Benfro.[2] Mae tua 1200 o ddisgyblion yn yr ysgol, gyda tua 200 o rheiny yn y chweched ddosbarth.[3]

Ysgol Syr Thomas Picton
Logo Ysgol Syr Thomas Picton
Arwyddair Include Inspire Improve
Ystyr yr arwyddair Cynnwys Ysbrydoli Gwella
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth Mrs Joan Bessant
Dirprwy Bennaeth Mr T Williams
Lleoliad Queensway, Hwlffordd, Sir Benfro, Cymru, SA61 2NX
AALl Cyngor Sir Benfro
Staff 86
(a 49 o staff cefnogol)[1]
Disgyblion 1164 (2010)[2]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Lliwiau           Glas
Gwefan Gwefan swyddogol

Cafodd yr ysgol ei henwi ar ôl Syr Thomas Picton, (Awst 175818 Mehefin 1815), arweinydd milwrol Cymreig a ymladdodd mewn nifer o ymgyrchoedd dros Brydain Fawr, gan godi i reng lefftenant cadfridog. Mae'n adnabyddus yn bennaf am ei orchestion gyda Dug Wellington yn Rhyfel Gorynysol Iberia a Brwydr Waterloo, ble anafwyd gan ddod y swyddog o'r rheng uchaf i farw yn Waterloo.

Adeiladwyd adeilad presennol yr ysgol yn ystod yr 1950au ar dir amaethyddol, nid yw fel y honnai rhai yn gyn-ysbyty milwrol. Adnewyddwyd yr adeiladau rhain yn ddiweddar.

Cyn-ddisgyblion golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Prosectus 2008/2009. Ysgol Syr Thomas Picton. Adalwyd ar 25 Awst 2011.
  2. 2.0 2.1  Ysgol Syr Thomas Picton. Cyngor Sir Penfro. Adalwyd ar 25 Awst 2011.
  3.  Edward Aneurin Peter Harris (28 Ionawr 2010). Adroddiad Arolygiad Ysgol Syr Thomas Picton, 23 Tachwedd 2009. Estyn. Adalwyd ar 25 Awst 2011.

Dolenni allanol golygu