Robert Jones, Rhoslan

awdur ac athro

Pregethwr, athro ac awdur ar bynciau crefyddol oedd Robert Jones (13 Ionawr 1745 - 18 Ebrill 1829), a adwaenir fel Robert Jones, Rhoslan. Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur Drych yr Amseroedd (1820).[1]

Robert Jones, Rhoslan
Ganwyd13 Ionawr 1745 Edit this on Wikidata
Llanystumdwy Edit this on Wikidata
Bu farw18 Ebrill 1829 Edit this on Wikidata
Man preswylRhoslan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllenor, athro Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDrych yr Amseroedd Edit this on Wikidata
PlantDaniel Jones Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganwyd ef ar fferm y Suntur, Llanystumdwy, ac addysgwyd ef yn un o ysgolion cylchynol Griffith Jones. Yn ddiweddarach daeth ef ei hun yn athro yn yr ysgolion cylchynol hyn mewn nifer o leoedd yng ngogledd Cymru. Roedd yn aelod o'r Methodistiaid Calfinaidd, a daeth yn amlwg fel pregethwr iddynt.[1]

Priodiodd Magdalen Prichard a symudodd i Roslan, lle defnyddiai ran o'i dŷ fel capel Methodistaidd. Yn ddiweddarach symudodd i Ddinas, Llŷn. Roedd ganddo bedwar o blant. Claddwyd ef ym mynwent Llaniestyn.

Drych yr Amseroedd

golygu

Ei gyfrol enwocaf yw Drych yr Amseroedd, sy'n rhoi hanes yr Ymneilltuwyr cynnar yng Ngwynedd a'r erledigaeth a fu arnynt. Mae'n ffynhonnell bwysig i haneswyr crefydd a chymdeithas yn ail hanner y 18fed ganrif yng Nghymru ac yn nodweddiadol am ei arddull bywiog a'i frasluniau cofiadwy o bobl a digwyddiadau.

Llyfryddiaeth

golygu

Cyhoeddiadau

golygu
  • Lleferydd yr Asyn (1776: cyhoeddwyd yn wreiddiol fel Ymddiffyn Crist'nogol, 1770)
  • Y Cristion mewn Cyfiawn Arfogaeth (1775, 1784).
  • Drych i'r Anllythrennog (1788)
  • Grawnsypiau Canaan (1795). Casgliad o emynau.
  • Achos Pwysig yn cael ei Ddadleu (1797).
  • Llwybr Hyffordd i'r Anllythrennog (1805)
  • Marwnad... y Parch. Thomas Jones (1820). Marwnad i Thomas Jones, Dinbych
  • Drych yr Amseroedd (1820).[2]
    • G. M. Ashton (gol.) Drych yr Amseroedd (Caerdydd, 1958).

Astudiaethau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
  2. Jones, Robert (1868). Drych yr Amseroedd . Caernarfon: Hugh Humphreys.