Robert Jones Derfel
Bardd Cymraeg ac awdur rhyddiaith Radicalaidd oedd Robert Jones Derfel neu R. J. Derfel (24 Gorffennaf 1824 – 17 Rhagfyr 1905).
Robert Jones Derfel | |
---|---|
R. J. Derfel (Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru) | |
Ffugenw | Derfel |
Ganwyd | 24 Gorffennaf 1824 Llandderfel |
Bu farw | 1905, 17 Rhagfyr 1905, 16 Rhagfyr 1905 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bywgraffiad
golyguCafodd Robert Jones ei eni yn y Foty, fferm rhwng Llandderfel a Bethel, Meirionnydd, yn fab i Edward a Catrin Jones. Treuliodd gyfnod yn ddiwaith yn Llundain tua 1848 pan fu'r Siartwyr yn eu hanterth. Mabwysiadodd y cyfenw "Derfel" ar ôl symud i weithio ym Manceinion lle treuliodd y gweddill o'i oes.
Sefydlodd wasg ym Manceinion. Daeth yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr ond troes fwyfwy at sosialaeth. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi gwladgarol a chartrefol, am fywyd y bobl gyffredin, a fu'n boblogaidd iawn.
Cyhoeddwyd nifer o lythyrau ac erthyglau ganddo yn Y Cymro a Llais Llafur rhwng 1892 a 1903. Awgrymodd mewn un llythyr y dylid mabywsiadu'r sosialydd cynnar Robert Owen fel nawddsant Cymru yn lle Dewi Sant. Galwodd yn ei bapur Traethodau ac Areithiau am bapur dyddiol Cymraeg, cenedlaethol, Prifysgol i Gymru, Llyfrgell Genedlaethol a llyfrgell ym mhob pentref yng Nghymru.
Roedd yn Gymro gwladgarol a anogai bawb i siarad Cymraeg ac amddiffyn Cymru. Pan ymddangosodd ei ddrama ddychanol Brad y Llyfrau Gleision yn 1854 mabwysiadwyd y teitl gan y Cymry i gyfeirio at adroddiad y Llyfrau Gleision gwrth-Gymraeg.
Llyfryddiaeth
golyguMae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
- Brad y Llyfrau Gleision (1854). Drama.
- Traethodau ac Areithiau (1864)
- Caneuon Gwladgarol (1864). Cerddi.
- Munudau Segur (Caernarfon, 1863). Cerddi.
- Caneuon (1891).
- Rhyddiaith R. J. Derfel (1945). Dwy gyfrol a olygwyd gan Gwenallt.