Brad y Llyfrau Gleision
Adroddiad ar gyflwr addysg yng Nghymru a gomisiynwyd gan senedd San Steffan oedd Brad y Llyfrau Gleision. Cyflwynwyd yr Adroddiad terfynol yn 1847 a'i argraffu yn dair cyfrol yn Nhachwedd y flwyddyn honno. Cyfeiria lliw y llyfrau at y clawr glas a roddwyd arnynt (lliw traddodiadol papurau swyddogol llywodraeth Prydain). Mae'r enw ei hun yn fwysair ar Frad y Cyllyll Hirion, pan laddwyd nifer o bendefigion y Brythoniaid trwy ddichell y Saeson, yn ôl traddodiad, wedi i Hengist wahodd Gwrtheyrn i'w wledd. Y bardd a gwladgarwr R. J. Derfel a fathodd yr enw.
- Arthygl am yr adroddiad addysg yw hon. Gweler hefyd Brad (gwahaniaethu).
Yr adroddiadGolygu
Comisiynwyd yr Adroddiad yn dilyn cais William Williams, Aelod Seneddol Coventry ond Cymro o Lanpumsaint, Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol. Roedd yn ddyn hynod o wrth-Gymraeg ac yn Sais-addolwr. Yn ôl Williams, roedd angen trefn addysg newydd fel y byddai'r Cymry "instead of appearing as a distinct people, in no respect differ from the English". Troi'n Sais o ran iaith a meddylfryd oedd yr ateb i gyflwr y Cymry. Roedd y Cymry dan anfantais oherwydd "the existence of an ancient language".[1]
Yn dilyn dros degawd o anghydfod - terfysgoedd ym Merthyr yn 1831, y Siartwyr yn Y Drenewydd a Chasnewydd yn 1839 a Merched Beca trwy gydol y ddegawd cyn 1846, roedd pryder cyffredin ymysg y Sefydliad ar y pryd am sefyllfa gymdeithasol a moesol y Cymry. Teimlai nifer mai'r Gymraeg a diffyg addysg (Saesneg) oedd gwraidd nifer o'r trafferthion. Meddai'r Times o Lundain am y Gymraeg:
Its prevalence and the ignorance of English have excluded and even now exclude the Welsh people from the civilisation of their English neighbours. An Eisteddfod... is simply a foolish interference with the natural progress of civilisation and prosperity.[2]
Bu'r adroddiad gan Ralph Robert Wheeler Lingen, Jelinger Cookson Symons a Henry Robert Vaughan Johnson, tri Eglwyswr o Sais na siaradai Gymraeg, yn ysgytwad i Gymry'r cyfnod gan iddo daflu amheuaeth ar eu moesoldeb ac am natur gyfrin a gwrthryfelgar yr iaith Gymraeg. Yr ymateb yma o 'frad' gan y Sefydliad Seisnig oedd y rheswm tu ôl i'r term 'Brad y Llyfrau Gleision' gael ei bathu. Yn ei ragymadrodd dywedir:
The Welsh language is a vast drawback to Wales and a manifold barrier to the moral progress and commercial prosperity of the people.[2]
Wrth gydnabod yr oedd elfenau o hiliaeth i'r ymdriniaeth o'r Cymry yn y Llyfrau Gleision, yn ei lyfr Pam na fu Cymru mae Simon Brooks yn dadlau mae prosiect ryddfrydol oeddynt, gyda'r bwriad o wella sefyllfa bydol y Cymry fel unigolion drwy roi mynediad atynt i'r byd modern a gynrychiolwyd (fel y tybiwyd o leiaf) gan yr iaith Saesneg.[3]
Ymatebion i'r adroddiadGolygu
Mae'r Adroddiad yn adnodd hynod ddiddorol a gwerthfawr ar gyfer haneswyr cymdeithasol a lleol. Ond ei brif effaith a'i enwogrwydd oedd iddo greu adwaith seicolegol o waseidd-dra ymhlith y Cymry wrth iddynt geisio gwrth-brofi y sen ar eu moesoldeb a'u hiaith a achoswyd gan yr Adroddiad.
Yn ei ddarlith radio adnabyddus Tynged yr Iaith, meddai Saunders Lewis:
Prin fod neb awdwr o Gymro eto wedi cydnabod yr hyn sy'n wir, mai'r Llyfrau Gleision hyn yw'r ddogfen hanesyddol bwysicaf a feddwn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a bod ynddi stôr o wybodaeth nas defnyddiwyd eto.[4]
Cyfansoddodd y bardd John Ceiriog Hughes ei ddilyniant o gerddi 'Alun Mabon' (1862) fel ymateb ymwybodol i'r darlun o'r Cymry a geir yn yr Adroddiad.
Cyhoeddiwyd gasgliad o ymatebion i'r adroddiad yn 1991 yn y llyfr Brad y Llyfrau Gleision wedi'i olygu gan Prys Morgan.
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Dyfynnir yn Gwynfor Evans, Aros Mae (Abertawe, 1971), t. 260
- ↑ 2.0 2.1 Dyfynnir yn Evans, Aros Mae, t. 262
- ↑ Simon Brooks, Pam Na Fu Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru)
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-12-15.
LlyfryddiaethGolygu
- Brad y Llyfrau Gleision: Ysgrifau ar Hanes Cymru, gol. Prys Morgan (Gwasg Gomer, 1991)
- Gareth Elwyn Jones, "Yr Iaith Gymraeg yn Llyfrau Gleision 1847", yn Gwnewch Bopeth yn Gymraeg, gol. G. H. Jenkins (Gwasg Prifysgol Cymru, 1999), tt. 399-426
Dolen allanolGolygu
Mae'r Adroddiad wedi ei ddigido ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru [1].