Robert Morton Nance

awdur o Gernyw a archeolegydd morwrol

Ysgolhaig Cernyweg yn enedigol o Gymru oedd Robert Morton Nance (18731959). Ystyrid ef yn un o'r prif awdurdodau ar yr iaith Gernyweg ac un ffigurau bwysicaf yr adfywiad Gernyweg.

Robert Morton Nance
Ganwyd1873 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw1959 Edit this on Wikidata
Hayle Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethieithydd, llenor Edit this on Wikidata
SwyddGrand Bard Edit this on Wikidata

Ganed ef yn ninas Caerdydd i rieni o Gernyw. Ysgrifennodd lawer o lyfrau a phamffledi ar y Gernyweg, gan gynnwys geiriadur Cernyweg safonol. Bu hefyd yn olygydd y cylcghgrawn Old Cornwall, ac yn un o sefydlwyr Gorseth Kernow gyda Henry Jenner.

Ef oedd bennaf gyfrifol am ddatblygu'r orgraff, Cernyweg Unedig (Kernewek Unyes).

Cyhoeddiadau

golygu
  • A Glossary of Celtic Words in Cornish Dialect (1923)
  • Sailing-ship Models: a selection from European and American collections with introductory text (1924)
  • Cornish-English Dictionary (1955)
  • The Cledry Plays: drolls of Old Cornwall for village acting and home reading (1956)
  • Cornish for All (1961)
  • A Guide to Cornish Place-names; with a list of the words contained in them