Cernyweg Unedig

orgraff i ysgrifennu'r iaith Gernyweg

Mae Cernyweg Unedig (Cernyweg: Kernewek Unyes, KU; Saesneg: Unified Cornish) yn amrywiad ar yr iaith Gernyweg a ddatblygwyd adeg adfywiad yr iaith Gernyweg. Datblygwyd hi'n raddol gan Robert Morton Nance yn ystod a chyn y 1930au, a chafodd ei henw o'r modd y mae hi'n safoni sillafiadau amrywiol llawysgrifau Cernyw traddodiadol. Amlinellodd ei waith yn ei lyfr Cornish for All ym 1929. Yn wahanol i waith Jenner ar Gernyweg Ddiweddar, seiliwyd orgraff Nance (Cernyweg Unedig) yn bennaf ar Gernyweg Canol y 14g a'r 15g. Credai Nance fod y cyfnod hwn yn bwynt uchel i lenyddiaeth Cernyw. Yn ogystal â chyflwyno system sillafu safonol, estynnodd Nance yr eirfa ardystiedig gyda ffurfiau wedi'u seilio'n bennaf ar Lydaweg a Chymraeg, a chyhoeddodd eiriadur Cernyweg Unedig ym 1938.

Yn fuan, disodlodd sillafu a gramadeg argymelledig Nance, yn seiliedig ar Gernyweg Ganol, system Henry Jenner, a oedd wedi'i seilio'n bennaf ar Gernyweg Hwyr. Byddai'r rhan fwyaf o'r genhedlaeth hŷn o ddefnyddwyr Cernyweg sy'n fyw heddiw wedi cychwyn o dan y system hon. Hon hefyd oedd y ffurf a ddefnyddiwyd yn wreiddiol gan Gorsedh Kernow, er eu bod bellach yn defnyddio'r Ffurf Ysgrifenedig Safonol (Furv Skrifys Savonek) newydd.[1]

Beirniadaeth golygu

Yn yr 1980au, daeth Cernyweg Unedig dan feirniadaeth drwm, gan arwain at greu Kernewek Kemmyn (KK) (Cernyweg Cyffredin) a Chernyweg Modern (a elwir hefyd, Revived Late Cornish, "RLC"). Serch hynny, parhaodd rhai siaradwyr Cernyw i ddefnyddio Cernyweg Unedig. Cafwyd ymosodiadau chwyrn ar yr orgraffiadau newydd yma (KK a Chernyweg Modern) gan gefnogwyr Cernyweg Unedig. Wrth gefnogi Cernyweg Unedig a fersiwn wedi'i diweddaru ohoni o'r enw Unified Cornish Revised, cyhuddodd Ray Chubb, ysgrifennydd Agan Tavas (Ein Hiaith) gefnogwyr Cernyweg Modern o "mucking around with historical sources" a honnodd fod gan siaradwyr Cernyw Cyffredin (KK) agwedd drahaus bod eu system yn berffaith."[2]

Cernyweg Unedig, Diwygiedig golygu

Yn y 1990au, daeth amrywiad arall i'r amlwg pan ddatblygodd Nicholas Williams orgraff arall, Cernyweg Unedig Ddiwygied (Cernyweg: Kernowek Unys Amendys, "KUA"; United Revised Cornish URC).

Agan Tavas golygu

Ym mis Medi 2008, ailddatganodd Agan Tavas ei gefnogaeth i Gernyweg Unedig, yn ogystal ag i'r SWF ac i Safon Kernowek.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu