Robert Pattinson
Actor, model, cerddor a chynhyrchydd Seisnig yw Robert Pattinson (ganed 13 Mai 1986). Mae'n enwog am actio Edward Cullen yn yr addasiad ffilm o'r llyfr Twilight gan Stephenie Meyer, ac am actio rhan Cedric Diggory yn Harry Potter and the Goblet of Fire.
Robert Pattinson | |
---|---|
Ganwyd | Robert Douglas Thomas Pattinson 13 Mai 1986 Llundain |
Man preswyl | Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cynhyrchydd ffilm, model, actor ffilm, actor llwyfan, cyfansoddwr, canwr, actor teledu |
Taldra | 185 centimetr |
Tad | Richard Pattinson |
Mam | Clare |
Partner | Kristen Stewart, FKA twigs, Suki Waterhouse |
Gwobr/au | Gwobr MTV Movie am y Gusan Orau, Gwobr MTV Movie am Ffeit Orau, Gwobr MTV Movie am y Gusan Orau, MTV Award for Global Superstar, Gwobrau Ffilmiau MTV ar gyfer Perfformiad Gwrywaidd Gorau, Gwobr MTV Movie am Ffeit Orau, Gwobr MTV Movie am y Gusan Orau, Gwobrau Ffilmiau MTV ar gyfer Perfformiad Gwrywaidd Gorau, Gwobr MTV Movie am y Gusan Orau |
llofnod | |
Bywyd Cynnar
golyguRoedd mam Pattinson, Clare, yn gweithio am asiantaeth modelu a'i dad wedi mewnforio ceir clasur o'r UD.[1] Mynychodd ef Ysgol Tower House ac Ysgol Harrodian. Dechreuodd Pattinson theatr amatur gyda'r Barnes Theatre Company. Mae dwy chwiorydd hŷn gyda Pattinson, cantores Lizzy Pattinson a Victoria Pattinson.
Gyrfa
golyguModelu
golyguDechreuodd Pattinson fodelu pan oedd yn 12 oed ond roedd ei lwyddiant yn y busnes yn brin ar ôl pedair blynedd. Dywedodd Pattinson am ei ddiffyg gwaith: "Pan ddechreuais am y tro cyntaf roeddwn yn eitha tal ac edrychais fel merch, felly ces llawer o swyddi oherwydd yn ystod y cyfnod hwnnw roedd y ffasiwn deuryw yn cwl. Wedyn, dychmyga, daeth rhy wryw, felly ni ches fwy o swyddi. Ces i'r gyrfa modelu mwyaf aflwyddiannus ."[2](o Saesneg). Ymddangosodd Pattinson yn ymgyrch hysbysebu am y casgliad hydref 2007 Hackett.
Cerddoriaeth
golyguGall Pattinson ganu'r gitâr a phiano, a chyfansodda ei gerddoriaeth ei hun.[3] Hefyd mae'n ymddangos fel canwr dwy gân ar y tracsain Twilight; "Never Think", a ysgrifennwyd gan Pattinson a Sam Bradley,[4] a "Let Me Sign", ysgrifennwyd gan Marcus Foster a Bobby Long.[5] Cafodd y caneuon eu cynnwys ar ôl ychwanegodd y cyfarwyddwr Catherine Hardwicke recordiadau Pattinson mewn fersiwn cynnar heb ei wybod a dyweddodd ef: "un o hwy yn bendant, mae hi wedi gwella'r olygfa. Roedd fel roedd rhaid iddi fod yna."[6] (o Saesneg). Mae'r tracsain How To Be yn cynnwys tair cân wreiddiol a berfformiwyd gan Pattinson[7] ac ysgrifennwyd gan Joe Hastings.[8]
Dywedodd Pattinson am ei gerddoriaeth "Dw i ddim wedi recordio unrhyw beth erioed - Dw i wedi jyst yn chwarae mewn tafarnai a stwff." Hefyd am ei yrfa proffesiynol dywedodd "Fy nghynllun wrth gefn yw cerddoriaeth os fy ngyfra actio yn ffaelu."[6] (o Saesneg). Yn 2010, enillodd Pattinson y gwobr 'Hollywood's Most Influential Top Unexpected Musicians'.
Actio
golyguCafodd Pattinson rolau cefnogol yn y ffilmiau teledu Ring of the Nibelungs yn 2004 ac yn Vanity Fair ond cafodd golygfeydd Pattinson eu torri, a dim ond yn y fersiwn DVD maeny yn ymddangos.[9] Yn 2005, chwaraeodd ef Cedric Diggory yn Harry Potter and the Goblet of Fire. Am y rôl hon, cafodd Pattinson ei enwi fel British Star of Tomorrow (2005) gan The Times.[10] Fe'i gelwir 'y Jude Law nesaf' gan rai.[11][12]
Chwaraeodd Pattinson Edward Cullen yn y ffilm Twilight a ryddhawyd ar 21 Tachwedd 2008 yng Ngogledd America. Roedd Pattinson yn ofnus am chwarae rôl Edward Cullen, yn ôl TV Guide, oherwydd ei fod yn meddwl na allai chwarae'r rôl "berffaith".[13] Dychwelodd Pattinson fel Edward Cullen yn y cyfresi dilynol Twilight, The Twilight Saga: New Moon a The Twilight Saga: Eclipse.
Ffilmyddiaeth
golyguBlwyddyn | Ffilm | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
2004 | Vanity Fair | Rawdy Crawley | Gallwch ei weld dim ond ar fersiwn DVD |
Ring of the Nibelungs | Giselher | Ffilm teledu | |
2005 | Harry Potter and the Goblet of Fire | Cedric Diggory | |
2006 | The Haunted Airman | Toby Jugg | Ffilm teledu |
2007 | The Bad Mother's Handbook | Daniel Gale | Ffilm teledu |
Harry Potter and the Order of the Phoenix | Cedric Diggory | Cameo | |
2008 | How To Be | Art | Strasbourg Film Festival Award for Best Actor[14] |
Twilight | Edward Cullen | Hollywood Film Award for New Hollywood MTV Movie Award for Breakthrough Performance Male MTV Movie Award for Best Kiss (gyda Kristen Stewart) MTV Movie Award for Best Fight (gyda Cam Gigandet) People's Choice Award for Favourite On-Screen-Team (gyda Taylor Lautner a Kristen Stewart) Scream Award for Best Fantasy Actor Teen Choice Award for Choice Hottie Teen Choice Award for Choice Movie Actor Drama Teen Choice Award for Movie Liplock (gyda Kristen Stewart) Teen Choice Award for Choice Movie Rumble (gyda Cam Gigandet) Enwebwyd – Empire Award for Best Newcomer[15] Enwebwyd – People's Choice Award for Favourite Movie Actor Enwebwyd - Scream Award for Best Ensemble Cast | |
2009 | Little Ashes | Salvador Dalí | |
The Twilight Saga: New Moon | Edward Cullen | Russia's Georges Award for Best Foreign Actor National Movie Award for Best Performance MTV Movie Award for Best Male Performance MTV Movie Award for Global Superstar MTV Movie Award for Best Kiss (gyda Kristen Stewart) Enwebwyd – Teen Choice Award for Choice Movie Actor Fantasy Enwebwyd - Teen Choice Award for Choice Hottie Enwebwyd - Teen Choice Award for Movie Liplock (gyda Kristen Stewart) Enwebwyd - Teen Choice Award for Movie chemistry (gyda Kristen Stewart) Enwebwyd – Empire Award for Best Actor[16] Enwebwyd – Nickelodeon Kids' Choice Awards for Cutest Couple (gyda Kristen Stewart) | |
2010 | Remember Me | Tyler Hawkins | Cynhyrchydd gweithiol Enwebwyd – Teen Choice Award for Choice Movie Actor Drama |
The Twilight Saga: Eclipse | Edward Cullen | ||
2011 | Bel Ami | Georges Duroy | Post-production |
Water For Elephants | Jacob Jankowski | Ffilmir | |
The Twilight Saga: Breaking Dawn Part I | Edward Cullen | Pre-production |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Robert Pattinson
- ↑ "Why Robert Pattinson's Modeling". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-17. Cyrchwyd 2010-07-01.
- ↑ "Robert Pattinson: 'I'm Really Not That Interesting'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-04. Cyrchwyd 2010-07-01.
- ↑ "Sam Bradley Interview". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-10. Cyrchwyd 2010-07-01.
- ↑ "Twilight Star Talks Soundtrack". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-26. Cyrchwyd 2010-07-01.
- ↑ 6.0 6.1 Robert Pattinson on his 'Twilight' songs: 'Music is my backup plan if acting fails'
- ↑ "Robert Pattinson Sings Three Songs in Indie Flick How to Be". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-03. Cyrchwyd 2010-07-01.
- ↑ Songs composed by Joe Hastings in Indie Flick How to Be
- ↑ "Something to sink his teeth into". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-12. Cyrchwyd 2021-08-23.
- ↑ "Almost famous". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-15. Cyrchwyd 2010-07-01.
- ↑ "Top 20 Rising Stars Under 30". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-09-24. Cyrchwyd 2010-07-01.
- ↑ "Teen People Names 'Artists of the Year' and 'What's Next'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-03. Cyrchwyd 2010-07-01.
- ↑ "Before the Spotlight, Twilight's Robert Pattinson Was Intimidated by "Perfect" Role". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-22. Cyrchwyd 2010-07-01.
- ↑ "Strasbourg International Film Festival: 2008 Awards". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-09. Cyrchwyd 2010-07-06.
- ↑ "The Jameson Empire Awards 2009". Empire Online. Bauer Consumer Media. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-14. Cyrchwyd 2 May 2010.
- ↑ "Jameson Empire Awards Announce 2010 Nominees". Bauer Consumer Media Ltd. 25 February 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-27. Cyrchwyd 2 May 2010.