Robert fitz Martin
Uchelwr Normanaidd a'r cyntaf o Arglwyddi Cemais oedd Robert fitz Martin neu Robert FitzMartin (c. 1095? - c. 1159).
Robert fitz Martin | |
---|---|
Ganwyd | 1090s |
Bu farw | 1159 |
Galwedigaeth | person milwrol |
Hanes
golyguNid oes gwybodaeth am ei dad, heblaw mai Martin oedd ei enw; Geva de Burci, etifeddes Serlo de Burci, oedd ei fam. Ail-briododd ei fam a William de Falaise, ac yn ddiweddarach etifeddodd Robert diroedd William a thiroedd ei daid, Serlo de Burci, yng ngorllewin Lloegr. Yn gynnar yn nheyrnasiad Harri I, brenin Lloegr, cymerodd ran yn yr ymosodiad Normanaidd ar Gymru, a chrewyd barwniaeth Cemais, rhwng Aberteifi ac Abergwaun, iddo. Nanhyfer oedd ei brif ganolfan: cododd castell yno yn gynnar yn y 12g. Sefydlodd Robert a'i wraig gyntaf Maud Peverell Abaty Llandudoch rywbryd rhwng 1115 a 1119. Yn 1135-1136, enillodd y Cymry y tiroedd hyn yn ôl, ac roedd Robert yn un o arweinwyr y llu Normanaidd a orchfygwyd gan Owain Gwynedd ym Mrwydr Crug Mawr. Er i'r Cymry gipio tref Aberteifi, llwyddodd Robert i amddiffyn Castell Aberteifi.
Rhwng 1136 a 1141 bu'n gwasanaethu yr Ymerodres Matilda yn ystod yr ymryson am goron Lloegr, ac yn ddiweddarach ei mab, Harri II. Nid oes cofnod ohono yn ystod y gweddill o'r 1140au; efallai iddo fynd ar yr Ail Groesgad. Ail-briododd ag Alice de Nonant, a chawsant dri o blant. Cafodd ei fab William diroedd ei dad yn ôl trwy briodi Angharad, merch Rhys ap Gruffudd.