Robot
Peiriant rhithwir neu fecanyddol ydy robot fel arfer, sydd wedi'i raglennu i wneud tasg neu dasgau arbennig a hynny ar ei ben ei hun. Mae'r robotiaid mwyaf clyfar yn ymddangos fel pe bai ganddynt nodweddiol dynol ac yn gallu meddwl drosto'i hun. Gellir didoli robotiaid i'r dosbarthiadau canlynol: robot dynoid dwy goes, robotiaid â rhagor o goesau e.e. System-gefnogi Bedair Coes, robotiaid ar olwynion neu robotiaid ehedog e.e. drôns. Gellir hefyd eu dosbarth yn ôl maint e.e. y nano-robotiaid meicrosgopig, neu yn ôl eu gwaith.[1] Mae'r car diyrrwr hefyd yn cynnwys elfennau o robotiaeth.
Math | peiriant, endid deallusrwydd artiffisial |
---|---|
Yn cynnwys | actifadydd, ffynhonnell ynni, cyfrifiadur, synhwyrydd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn y dechreuad...
golyguErs cychwyn gwareiddiad bu gan fodau dynol ddiddordeb i greu offer neu gyfarpar a allai ei gynorthwyo ac ysgafnhau ei faich. Aeth i'r pegwn eithaf pan geisiodd drefnu caethweision i wneud gwaith llafurus drosto, fel arfer y gwaith butraf ac anoddaf. Roedd creu peiriant megis olwyn ddŵr neu'r pwmp yn ei alluogi i wneud y gwaith ailadroddus hwn yn gynt a chynt ac yn fwy effeithiol. Wrth i dechnoleg ddatblygu daeth y peiriannau hyn yn fwy cymhleth ac yn fwy effeithiol fyth. Ar gyfer un dasg yn unig y crewyd y rhan fwyaf o'r peiriannau, ond dychmygai rhai beiriant tebyg i ddyn a allai droi ei law at unrhyw dasg dan haul.
Ymhlith y meddylwyr mawr yn y maes hwn mae: Leonardo Da Vinci yn yr 1490au a Jacques de Vaucanson yn 1739; cynlluniwyd nifer o beiriannau aml-dasg gan y ddau yma. Cynlluniwyd torpido wedi'i reoli gan donfeydd radio gan Nikola Tesla yn 1898 a rhoddodd Makoto Nishimura (yn 1929) nodweddion dynol megis dagrau i'r pen mecanyddol a alwodd yn "Gakutensoku".
Yr enw
golyguDaw'r gair "robot" allan o ddrama o'r enw R.U.R. (Rossum's Universal Robots) a sgwennwyd gan Karel Čapek o Tsiecoslofacia yn 1920. "Llafurwr" oedd y gair gwreiddiol ganddo ond awgrymodd ei frawd Josef derm newydd: 'robot'.
Yn 1942 ysgrifennodd Isaac Asimov ffuglen-wyddonol a gynhwysodd "Tair Deddf Robotiaeth"; defnyddiwyd y rhain drachefn yn y ffilm I Robot yn 2004.
Llenyddiaeth Gymraeg
golyguYn groes i'r arfer o roi nodweddion dynol ar robot, sgwennodd Owain Owain nofel Gymraeg o'r enw Y Dydd Olaf a roddodd nodweddion robotaidd ar bobl wedi'u cyflyru gan awdurdodau totalitaraidd.[2]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Four-legged Robot, 'Cheetah,' Sets New Speed Record". Reuters. 2012-03-06.
- ↑ [https://web.archive.org/web/20150317014937/http://www.ameliasmagazine.com/music/y-dydd-olaf-the-last-day-by-gwenno-saunders-an-interview/2014/11/03/ Archifwyd 2015-03-17 yn y Peiriant Wayback Gwefan Saesneg www.ameliasmagazine.com; cyfweliad gyda Gwenno Saunders] adalwyd 16 Mawrth 2015