Rodez
Rodez (Occitaneg: Rodés) yw prifddinas département Aveyron yn Midi-Pyrénées, de Ffrainc. Roedd poblogaeth y ddinas yn 24,540 yn 2008, gyda phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 55,000. Saif rhwng Toulouse, Montpellier a Clermont-Ferrand, ar dir uchel uwchben afon Aveyron.
Dechreiodd y ddinas fel oppidum Celtaidd Segodunum. Cipiwyd y ddinas ar wahanol adegau gan y Fisigothiaid, y Ffranciaid, byddin Islamaidd yn 725 a chan y Saeson yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd. Nodweddir ei hanes gan ymryson rhwng Dugiaid Rodez ac esgobion Rodez.
Adeiladau nodedigGolygu
- Cathédrale Notre-Dame de Rodez
Pobl enwog o RodezGolygu
- Pierre Soulages (ganed 1919), arlunydd a cherflunydd