Rodney Berman
Mae Rodney Simon Berman OBE yn gyn-wleidydd Democratiaid Rhyddfrydol, cyn-gynghorydd dros ward Plasnewydd a bu'n arweinydd Cyngor Caerdydd hefyd.
Rodney Berman | |
---|---|
Ganwyd | 1969 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Plaid Wleidyddol | y Democratiaid Rhyddfrydol |
Gwobr/au | OBE |
Cafodd ei eni a’i fagu yn Glasgow. Astudiodd ym Mhrifysgol Glasgow, ble helpodd i redeg Democratiad Rhyddfrydol Prifysgol Glasgow cyn symud i Gymru i astudio am PhD.
Safodd Berman yn etholiad San Steffan fel yr ymgeisydd dros Dde Caerdydd a Phenarth yn 2001, a'r Rhondda yn 1997 – daeth e'n drydydd y ddau dro.[1] Ei asiant ar gyfer sedd y Rhondda oedd yr Athro Russell Deacon. Berman oedd y Democrat Rhyddfrydol olaf i sicrhau ei ernes yno tan etholiad cyffredinol 2010.
Yn 2006, Berman oedd enillydd cyntaf gwobr Gwleidydd Lleol y Flwyddyn.[2]
Yn etholiadau lleol 2008, dan arweinyddiaeth Berman, gwelodd y Democratiaid Rhyddfrydol gynnydd yn eu cynrychiolaeth, gan ennill seddi newydd yn nwyrain (Trowbridge), gorllewin (Llandaf) a de’r ddinas (Tre-biwt). Dan arweinyddiaeth Berman, enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu cynrychiolaeth fwyaf yng Nghaerdydd am fwy na chanrif.
Yn etholiadau'r cyngor 2012, collodd y Democratiaid Rhyddfrydol rheolaeth dros Gyngor Caerdydd i’r Blaid Lafur, a chollodd Berman ei sedd hefyd ar ôl ailgyfrif ddwywaith.[3]
Gwnaed Berman yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2013 am ei wasanaethau i lywodraeth leol a'r gymuned yng Nghaerdydd.
Bywyd personol
golyguMae Berman yn agored hoyw. Ym mis Awst 2006, cofrestrodd mewn Partneriaeth Sifil gyda’i bartner, cyn-newyddiadurwr ITV News Nick Speed.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rodney Berman: Electoral history and profile". icWales. London: Western Mail and Echo Ltd. 14 August 2006. Cyrchwyd 25 August 2006.
- ↑ "Hain wins top title for work in Wales and N Ireland". Western Mail. Media Wales. 30 November 2006. Cyrchwyd 28 April 2012.
- ↑ "Cardiff council's Rodney Berman toppled in cull of leaders". BBC News. 4 May 2012.
- ↑ Nifield, Philip. "Partnership ceremony for Berman and partner". South Wales Echo. Media Wales. Cyrchwyd 19 December 2011.