Roger Federer

Chwaraewr tenis o'r Swistir

Chwaraewr tenis o'r Swistir, yw Roger Federer (/ˈɹɑ.dʒər ˈfɛ.dər.ər/) (ganwyd 8 Awst, 1981). Cred llawer y gall fod y chwaraewr gorau erioed.[1][2][3][4][5]

Roger Federer
Gwlad Baner Y Swistir Y Swistir
Cartref Wollerau, y Swistir
Dyddiad Geni (1981-08-08) 8 Awst 1981 (42 oed)
Lleoliad Geni Binningen, y Swistir
Taldra 1.85 m
Pwysau 85 kg
Aeth yn broffesiynol 1998
Ffurf chwarae Dde; Gwrthlaw unlaw
Arian Gwobr Gyrfa $123,468,993
Senglau
Record Gyrfa: 1200–263 (82.02%)
Teitlau Gyrfa: 101
Safle uchaf: 1 (2 Chwefror 2004)
Canlyniadau'r Gamp Lawn
Agored Awstralia enillwr (2004, 2006, 2007, 2010, 2017, 2018)
Agored Ffrainc enillwr (2009)
Wimbledon enillwr (2003, 2004, 2005, 2006, 2007, 2009, 2012, 2017)
Agored yr UD enillwr (2004, 2005, 2006, 2007, 2008)
Parau
Record Gyrfa: 129-89
Teitlau Gyrfa: 8
Safle uchaf: 24 (9 Mehefin 2003)

Gwybodlen wedi'i diweddaru diwethaf ar: 5 Mai 2019.

Mae wedi ennill 20 teitl Camp Lawn sengl, 6 teitl Cwpan y Meistri Tenis, a 28 o deitlau Cyfres y Meistri ATP. Yn 2004, ef oedd y cyntaf ers Mats Wilander yn 1988 i ennill y pedwar twrnamaint sengl Camp Lawn i ddynion yn yr un flwyddyn: Pencampwriaeth Agored Awstralia, Wimbledon, Phencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau a Pencampwriaeth Agored Ffrainc. Yn 2006, ailadroddodd y gamp hon, a'r unig ddyn erioed i ailadrodd y gamp yma a'r dyn cyntaf yn yr oes agored i ennill o leiaf deg pencampwriaeth sengl dair blynedd yn ddilynol (2004 i 2006).[6] Ef hefyd yw'r unig chwaraewr sydd wedi ennill teitlau senglau Wimbledon a Phencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau dair mlynedd yn ddilynol (2004 i 2006). Yn 2007, pan enillodd Federer ei drydedd teitl Pencampwriaeth Agored Awstralia, daeth yn unig chwaraewr gwrywaidd i ennill tri thrnamaint Camp Lawn ar wahân tair gwaith.

Mae Federer wedi dal safle uchaf chwaraewyr dethol y byd ers 2 Chwefror, 2004, ac yn dal y record am y mwyaf o wythnosau dilynol fel y chwaraewr gwrywol gyda'r safle uchaf.[7] Ar 2 Ebrill, 2007, cafodd ei enwi fel Chwaraewr Byd-eang Laureus y Flwyddyn am drydedd dro dilynol, sef record. Ar 8 Gorffennaf, 2012, enillodd Wimbledon am y saithfed tro, ac felly daeth i ddal record hafal â Pete Sampras.

Bywyd personol golygu

Cafodd Federer ei eni yn Basel,[8] yn fab i Robert Federer o Berneck a Lynette Federer (née Durand), o Dde Affrica. Priododd y chwaraewr tenis Miroslava Vavrinec yn 2009. Mae ganddynt ddwy ferch a dau fab.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Roddick: Federer might be greatest ever. The Associated Press (3 Gorffennaf, 2005). Adalwyd ar 29 Mehefin, 2007.
  2. (Saesneg) Federer inspires comparisons to all-time greats. The Associated Press (12 Medi, 2004). Adalwyd ar 29 Mehefin, 2007.
  3. (Saesneg) 4-In-A-Row For Federer. The Associated Press (9 Gorffennaf, 2006). Adalwyd ar 29 Mehefin.
  4. (Saesneg) Sarkar, Pritha (4 Gorffennaf, 2005). Greatness beckons Federer. Reuters. Adalwyd ar 29 Mehefin, 2007.
  5. (Saesneg) Collins, Bud (3 Gorffennaf, 2005). Federer Simply In a League of His Own. Gwefan MSNBC. MSNBC.COM. Adalwyd ar 29 Mehefin, 2007.
  6. (Saesneg) Kim, Alison (12 Tachwedd, 2006). Dominance at No. 1. ATP Tennis Weekly. ATPtennis.com. Adalwyd ar 29 Mehefin, 2007.
  7. (Saesneg) Federer, Roger (26 Chwefror, 2007). ATP - 161 Weeks: Competing With History. Adalwyd ar 29 Mehefin, 2007.
  8. "Credit Suisse – Roger Federer, a Basel Boy Forever". Sponsorship.credit-suisse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mai 2013. Cyrchwyd 22 Ionawr 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Safleoedd chwaraeon
Rhagflaenydd:
Andy Roddick
Rafael Nadal
Rhif 1 y Byd
2 Chwefror 2004 – 18 Awst 2008
6 Gorffennaf 2009 - 7 Mehefin 2010
Olynydd:
Rafael Nadal
Rafael Nadal
Gwobrau
Rhagflaenydd:
Arnaud Di Pasquale
Pencampwr Iau'r Byd ITF
1998
Olynydd:
Kristian Pless
Rhagflaenydd:
Simon Ammann
Chwaraewr Swisaidd y Flwyddyn
20032004
Olynydd:
Thomas Lüthi
Rhagflaenydd:
Andy Roddick
Pencampwr y Byd ITF
2004-05-06-07
Olynydd:
deiliad
Rhagflaenydd:
Andy Roddick
Chwaraewr y Flwyddyn ATP
2004-05-06-07
Olynydd:
deiliad
Rhagflaenydd:
Thomas Lüthi
Chwaraewr Swisaidd y Flwyddyn
2006-07
Olynydd:
deiliad
Rhagflaenydd:
Andy Roddick
Chwaraewr Tenis Gwrywol Gorau ESPY
2005-06-07
Olynydd:
deiliad
Rhagflaenydd:
Michael Schumacher
Chwaraewr Byd-eang Laureus y Flwyddyn
2005-06-07-08
Olynydd:
deiliad