Roger Scruton
Athronydd ac awdur o Sais oedd Syr Roger Vernon Scruton FBA FRSL (27 Chwefror 1944 – 12 Ionawr 2020). Ysgrifennodd mwy na 50 o lyfrau am estheteg, athroniaeth wleidyddol, moeseg, a phynciau eraill, ac roedd yn nodedig fel ceidwadwr a thraddodiadwr pybyr.
Roger Scruton | |
---|---|
Roger Scruton | |
Ganwyd | Roger Vernon 27 Chwefror 1944 Buslingthorpe |
Bu farw | 12 Ionawr 2020 o canser Brinkworth |
Man preswyl | Brinkworth |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Addysg | Doethuriaeth mewn Gwyddoniaeth, Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor |
|
Galwedigaeth | athronydd, gwyddonydd gwleidyddol, academydd, cyfansoddwr, gwleidydd, newyddiadurwr, nofelydd, esthetegydd, llenor, cerddor |
Swydd | ymchwilydd |
Cyflogwr |
|
Arddull | opera |
Prif ddylanwad | Georg Hegel, Edmund Burke, John Ruskin, Immanuel Kant |
Mudiad | Ceidwadaeth |
Tad | John Scruton |
Priod | Sophie Louise Jeffreys |
Plant | Samuel Andrew Scruton, Lucy Claire Elizabeth Scruton |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod Za zásluhy, 1st of June Award, Cymrawd yr Academi Brydeinig, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Sappho Award, honorary doctorate of the Masaryk University, Silver Medal of the Chairman of the Senate, Croes Fawr Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Marchog Faglor, honorary citizen of Brno |
Gwefan | https://www.roger-scruton.com |
Ganed yn Buslingthorpe, Swydd Lincoln, a chafodd ei fagu ym Marlow ac High Wycombe, Swydd Buckingham. Astudiodd yng Ngholeg yr Iesu, Caergrawnt, ac yn ddiweddarach fe fu'n gymrawd ymchwil yn Peterhouse, Caergrawnt. Trodd yn geidwadwr wedi iddo fod yn dyst i derfysgoedd Paris ym Mai 1968. Addysgodd yn Birkbeck, Prifysgol Llundain o 1971 i 1992. Scruton oedd golygydd cyntaf The Salisbury Review, a bu yn y swydd honno o 1982 i 2001.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "Sir Roger Scruton dies after 6-month battle with cancer", The Daily Telegraph (12 Ionawr 2020). Adalwyd ar 12 Ionawr 2020.