Roger de Puleston

Swyddog Seisnig oedd Roger de Puleston (hefyd Roger Puleston, Roger Pulesdon neu Roger de Pulesdon) (bu farw 1294), a apwyntwyd yn Siryf cyntaf Sir Fôn yn 1284.[1]

Roger de Puleston
Ganwyd13 g Edit this on Wikidata
Bu farwo crogi Edit this on Wikidata

Cymharol ychydig a wyddom amdano. Ar ôl i Edward I o Loegr oresgyn Tywysogaeth Cymru a Gwynedd yn 1283-84, crëwyd tair sir newydd - Sir Fôn, Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd - ar diriogaeth Gwynedd Uwch Conwy. Roedd angen swyddogion i reoli'r unedau newydd hyn, a seilwyd ar batrwm siroedd Lloegr, ac apwyntwyd de Puleston gan y brenin i redeg Môn yn 1284.

Daeth y Monwysion, pobl Môn, i'w gasau fel gormeswr. Yn 1294, yn ystod dyddiau cynnar gwrthryfel Madog ap Llywelyn, cipwyd Puleston gan rai o uchelwyr Môn a'i ddwyn i Gaernarfon lle cafodd ei grogi yn gyhoeddus.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. J. E. Morris, The Welsh wars of Edward I (Rhydychen), tt. 242-243.
  2. A. D. Carr, 'Môn yn y Canol Oesoedd', Atlas Môn (Llangefni, 1972).