Siryfion Môn cyn y 15fed ganrif

Mae hon yn rhestr o ddeiliaid swydd Siryf Sir Fôn rhwng 1284 a 1399

Siryfion Môn cyn y 15fed ganrif
Enghraifft o'r canlynolerthygl sydd hefyd yn rhestr Edit this on Wikidata

Siryf yw cynrychiolydd cyfreithiol y Brenin a benodir yn flynyddol ar gyfer pob sir yng Nghymru a Lloegr, ei ddyletswydd yw cadw'r heddwch yn ei sir a sicrhau ufudd-dod i gyfraith y brenin. Yn wreiddiol, roedd yn swydd o statws a grym. Yn Lloegr roedd y swydd yn mynd yn ôl i gyfnod cynnar y Sacsoniaid, penodwyd siryfion cyntaf Cymru ym 1284 wedi goresgyniad Cymru gan Edward I, Brenin Lloegr a chreu y 13 Sir Hanesyddol Cymreig.

Rhestr golygu

  • 20 Mawrth, 1284: Syr Roger de Puleston, Emral (siryf cyntaf, lladdwyd 1295)
  • 16 Medi, 1295: Thomas de Aunvers
  • 1 Ebrill, 1300: John de Havering
  • Gŵyl Mihangel 1301: Walter de Wynton
  • Gŵyl Mihangel 1302: Henry de Dynynton
  • Gŵyl Mihangel 1305: Gruffudd ab Owen
  • Gŵyl Mihangel 1308: Madog Llwyd
  • 4 Mawrth, 1312: John de Sapy
  • 8 Awst, 1316: Anian de Jevan
  • 1327: Gilbert de Ellesefield
  • 1332: John de Sapy
  • 1334: William Trussell
  • 1350: William de Ellerton
  • 1353: Thomas de Hareburgh
  • 1355: Gruffudd ap Madog, Gloddaeth
  • 1358: William Walton
  • 1363: Ralph de Allerwych
  • 1376: Richard Pykemere
  • 1386: Richard de Golden
  • 1387: Richard Pykemere
  • 1387: Adam le Clerc
  • 1396: Gwilym ap Gruffudd, Penmynydd

Cyfeiriadau golygu

  • Kalendars of Gwynedd: Or, Chronological Lists of Lords-lieutenant, Custodes Rotulorum, Sheriffs, and Knights of the Shire, for the Counties of Anglesey, Caernarvon, and Merioneth, and of the Members for the Boroughs of Caernarvon and Beaumaris. To which are Added Lists of the Lords Presidents of Wales and the Constables of the Castles of Beaumaris, Caernarvon, Conway, and Harlech gan Edward Breese 1873 t 49. ( Copi ar-lein: https://dcms.lds.org/delivery/DeliveryManagerServlet?dps_pid=IE102872 )