Roger o Drefaldwyn, Iarll 1af Amwythig

(Ailgyfeiriad o Roger o Drefaldwyn)

Arglwydd Normanaidd oedd Roger o Drefaldwyn, Iarll 1af Amwythig (neu Roger de Montgoméri), a elwid hefyd yn Roger Fawr ("Roger le Grand") (tua 103027 Gorffennaf 1094)[1] ac y cyfeirir ato gan haneswyr Cymreig ac eraill fel Roger o Drefaldwyn hefyd, a fu'n arglwydd Trefaldwyn (Montgoméri), vicomte Hiémois, ac arglwydd Alençon. Roedd yn un o'r arglwyddi Normanaidd cyfoethocaf a grymusaf yn Lloegr a'r Mers yn y deyrnas a greuwyd gan Wilym Gwncwerwr. Fel Iarll cyntaf Amwythig, teitl a daliodd o 1074 hyd ei farw yn 1094, bu ganddo ran flaenllaw yn ymdrechion y Normaniaid i oresgyn Cymru.

Roger o Drefaldwyn, Iarll 1af Amwythig
Ganwydc. 1029 Edit this on Wikidata
Bu farw27 Gorffennaf 1094 Edit this on Wikidata
Abaty Amwythig Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDugiaeth Normandi, Teyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
GalwedigaethCounselor Edit this on Wikidata
TadRoger I de Montgommery Edit this on Wikidata
PriodMabel de Bellême, Adélaïs du Puiset Edit this on Wikidata
PlantRobert of Bellême, 3rd Earl of Shrewsbury, Roger the Poitevin, Arnulf de Montgomery, Hugh of Montgomery, 2nd Earl of Shrewsbury, Roger III de Montgomery, Matilda de Montgomery, Sibyl o Drefaldwyn, Philip de Montgomery Edit this on Wikidata
LlinachMontgomerie family Edit this on Wikidata

Tua'r flwyddyn 1050, priododd Mabile de Bellême. Roedd ganddo diroedd helaeth yn Normandi a bu'n un o brif gapteiniaid Gwilym Gwncwerwr pan laniodd ger Hastings yn 1066; mewn canlyniad i'w ymroddiad a'i wasanaeth cafodd diroedd sylweddol yn ne a chanolbarth Lloegr gan y brenin newydd, yn cynnwys Swydd Amwythig am y ffin â Chymru.

Sefydlodd Roger ei bencadlys ar ochr Gymreig Clawdd Offa ar safle'r Hen Domen - ar gyrion tref Trefaldwyn heddiw - lle cododd castell mwnt a beili mawr a'i alw yn Montgoméri. Enwyd yr hen Sir Drefaldwyn (Montgomeryshire) ar ei ôl.[2]

Cafodd ei olynu fel Iarll Amwythig gan ei fab Hugh.

Cyfeiriadau golygu

  1. A Genealogical History of the Family of Montgomery: Including the Montgomery Pedigree. private circulation; H. B. Ashmead, printer. 1863. t. 19. (Saesneg)
  2. David Walker, The Norman Conquerors (Abertawe, 1977), tud. 23.
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.