Roni Horn
Awdur ac arlunydd Americanaidd yw Roni Horn (ganwyd 25 Medi 1955[1]) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ffotograffydd a hefyd fel cerflunydd. Mewnfudwyr Ewropeaidd oedd ei nain a'i thaid, ar y ddwy ochr.[2][3][4][5][6][7]
Roni Horn | |
---|---|
Ganwyd | 25 Medi 1955 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ffotograffydd, llenor, cerflunydd, drafftsmon, arlunydd, arlunydd |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Joan Miró Prize |
Fe'i ganed yn Ninas Efrog Newydd, UDA, lle mae'n dal i fyw. Mynychodd Brifysgol Yale ac Ysgol Ddylunio Rhode Island. Derbyniodd Horn MFA mewn cerflunio gan Brifysgol Iâl. [8][9] Ers 1975 teithiodd Horn yn aml i Wlad yr Iâ, ac mae ei dirwedd a'i unigedd, ei hinsawdd a'i diwylliant wedi dylanwadu'n gryf ar ei gwaith. Ers ei hymweliad cyntaf â'r ynys fel myfyriwr graddedig o Iâl, mae Horn wedi dychwelyd i Wlad yr Iâ yn aml.[10]
Y ffotograffydd
golyguTo Place
golyguMae'r gyfres o lyfrau o'r enw To Place (1990-) yn ymweneud â Gwlad yr Iâ.[11]
Yn 1982, yn ystod arhosiad o ddau fis mewn goleudy oddi ar arfordir deheuol Gwlad yr Iâ mewn tref o'r enw Dyrhólaey, aeth ati i greu 13 llun dyfrlliw a graffit, o'r enw Bluff Life (cyhoeddwyd yn 1990).[12] Mae'r gyfres yn gyfanswm o un-deg-tri llun, pob un wedi'i wneud ar gardiau nodiadau. Mae'r ail lyfr a gyhoeddodd, Folds (1991), yn gasgliad o ffotograffau sy'n dogfennu corlannau defaid. To Place: Verne’s Journey (1995) yw'r 5ed yn y gyfres.[13]
Mae traethawd ffotograffig, y seithfed gyfrol, Arctic Circles (1998) yn cofnodi gorwel diddiwedd Môr y Gogledd, plu yr hwyaden fwythblu, a ffagl tro'r goleudy. Mae Doubt Box (Llyfr IX) (2006) yn gasgliad o gardiau yn hytrach na chyfrol wedi'i rhwymo. Wedi'u hargraffu ar y ddwy ochr, mae'r cardiau'n dangos lluniau o ddŵr rhewlifol, adar tacsidermi, ac un wyneb dynol.
Llyfrau
golygu- Horn, Roni. Bluff Life. (To Place, book I.) New York: Peter Blum, 1990. ISBN 0-935875-09-3
- Horn, Roni. Folds. (To Place, book II.) New York: Mary Boone Gallery, 1991. ISBN 0-941863-21-2
- Horn, Roni. Lava. (To Place, book III.) New York: Roni Horn, 1992. ISBN 1-56466-035-4
- Horn, Roni. Pooling waters. (To Place, book IV.) Cologne: Walther König, 1994. ISBN 3-88375-187-1
- Horn, Roni. Inner geography. (To Place, supplement.) Baltimore, MD: Baltimore Museum of Art, 1994. ISBN 0-912298-67-7
- Horn, Roni. Verne's journey. (To Place, book V.) Cologne: Walther König, 1995. ISBN 3-88375-219-3
- Horn, Roni. Haraldsdóttir. (To Place, book VI.) Denver, CO: Ginny Williams, 1996. ISBN 1-880146-16-9
- Horn, Roni. You are the weather. Zurich and New York: Scalo in collaboration with Fotomuseum Winterthur, 1997. ISBN 3-931141-45-4
- Horn, Roni. Arctic circles. (To Place, book VII.) Denver, CO: Ginny Williams, 1998. ISBN 1-880146-21-5
- Horn, Roni, Kathleen Merrill Campagnolo, and Jan Avgikos. Still water. Santa Fe, NM: SITE Santa Fe, 2000. ISBN 0-9700774-1-6
- Horn, Roni. Another water (the River Thames, for example). Zurich and New York: Scalo, 2000. ISBN 3-908247-25-X
- Horn, Roni. Becoming a landscape. (To Place, book VIII.) Denver, CO: Ginny Williams, 2001. ISBN 3-88243-797-9
- Horn, Roni. Dictionary of water. Paris: Edition 7L, 2001. ISBN 3-88243-753-7
- Horn, Roni. This is me, this is you. Paris: Edition 7L, 2002. ISBN 3-88243-798-7
- Horn, Roni. Cabinet of. Göttingen/New York: Steidl/Dangin, 2003. ISBN 3-88243-864-9
- Horn, Roni. Her, her, her & her. Göttingen/New York: Steidl/Dangin, 2004. ISBN 3-86521-035-X
- Horn, Roni, Louise Bourgeois, Anne Carson, Hélène Cixous, and John Waters. Wonderwater (Alice Offshore). Göttingen, Germany: Steidl, 2004. ISBN 3-86521-005-8
- Horn, Roni, and Hélène Cixous. Rings of Lispector (Agua Viva). London: Hauser & Wirth; Göttingen: Steidl, 2005. ISBN 3-86521-149-6
- Horn, Roni. Index Cixous: cix pax. Göttingen, Germany: Steidl, 2005. ISBN 3-86521-135-6
- Horn, Roni. Doubt box. (To Place, book IX.) Göttingen, Germany: Steidl, 2006. ISBN 3-86521-276-X
- Horn, Roni. Herðubreið at home: the Herðubreið paintings of Stefán V. Jónsson aka Stórval. Göttingen: Steidl, 2007. ISBN 978-3-86521-457-7
- Horn, Roni. Weather reports you. London: Artangel/Steidl, 2007. ISBN 978-3-86521-388-4
- Horn, Roni, and Philip Larratt-Smith. Bird. London: Hauser & Wirth; Göttingen: Steidl, 2008. ISBN 978-3-86521-669-4
- Horn, Roni, and Fondation Beyeler. Roni horn. Hatje Cantz Verlag, a Ganske Publishing Group Company, 2016. ISBN 3775742514
- Horn, Roni, Jerry Gorovoy, Gary Indiana, and Glenstone (Museum). Roni Horn. Edited by Emily Wei Rales and Ali Nemerov. First ed. Potomac, Maryland: Glenstone, 2017. ISBN 9783791356600
- Horn, Roni. Remembered Words, A Specimen Concordance. Göttingen: Steidl, 2019. ISBN 978-3-95829-564-3
- Horn, Roni. Dogs' Chorus. Göttingen: Steidl, 2019 ISBN 978-3-95829-536-0
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1990), Joan Miró Prize (2013)[14] .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Guggenheim Museum Biography". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-20. Cyrchwyd 2021-02-22.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Disgrifiwyd yn: http://www.ubu.com/sound/horn.html. dyddiad cyrchiad: 10 Chwefror 2017.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: "Roni Horn". "Roni Horn". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Union List of Artist Names. dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2018. dyddiad cyrchiad: 11 Hydref 2018.
- ↑ Julie L. Belcove (November 2009), Roni Horn Archifwyd 2012-10-03 yn y Peiriant Wayback W Magazine.
- ↑ Galwedigaeth: "Becoming a Landscape (7)". Cyrchwyd 7 Medi 2021. https://www.workwithdata.com/person/roni-horn-1955. dyddiad cyrchiad: 2 Rhagfyr 2024.
- ↑ Anrhydeddau: https://www.fmirobcn.org/en/foundation/premi-joan-miro/prize/. dyddiad cyrchiad: 20 Gorffennaf 2020.
- ↑ "Biography". Library of Water. Cyrchwyd 8 December 2016.
- ↑ "Roni Horn" (interview with Claudia Spinelli). Journal of Contemporary Art, Mehefin 1995.
- ↑ Huseman, Beth (2008). Roni Horn aka Roni Horn. Germany: Seidl Verlag. ISBN 978-3-86521-831-5.
- ↑ Elements and Unknowns, September 4 – November 23, 2008 MoMA, Efrog Newydd.
- ↑ https://www.fmirobcn.org/en/foundation/premi-joan-miro/prize/. dyddiad cyrchiad: 20 Gorffennaf 2020.