Ronnie Corbett
Digrifwr ac actor o Albanwr oedd Ronald Balfour "Ronnie" Corbett, CBE (4 Rhagfyr 1930 – 31 Mawrth 2016) a gyd-weithiodd am ran helaeth o'i yrfa gyda Ronnie Barker yn y gyfres gomedi teledu The Two Ronnies. Daeth i amlygrwydd yn y rhaglen gomedi dychanol The Frost Report a gyflwynwyd gan David Frost yn y 1960au ac yn ddiweddarach yn y comediau sefyllfa Sorry! a No – That's Me Over Here!.
Ronnie Corbett | |
---|---|
Llais | Ronnie Corbett BBC Radio4 Front Row 1 May 2011 b010tbkh.flac |
Ganwyd | 4 Rhagfyr 1930 Caeredin |
Bu farw | 31 Mawrth 2016 Llundain |
Man preswyl | Shirley, Gullane |
Dinasyddiaeth | [[Delwedd:Nodyn:Alias baner gwlad yr Alban|22x20px|Baner Nodyn:Alias gwlad yr Alban]] [[Nodyn:Alias gwlad yr Alban]] |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, llenor, actor ffilm, actor llwyfan, perfformiwr cabaret, hedfanwr, actor teledu |
Priod | Anne Hart |
Plant | Sophie Corbett |
Gwobr/au | CBE |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Ronnie Corbett yng Nghaeredin yn 1930, yn fab i William Balfour Corbett (1898-1974), pobydd, a'i wraig Annie Elizabeth (née Main) Corbett (1900-1991) a anwyd yn Llundain.[1] Roedd ganddo frawd tua chwe mlynedd yn iau a chwaer deng mlynedd yn iau.[2]
Bywyd personol
golyguPriododd Corbett yr actores a'r ddawnswraig Anne Hart yn 1965; a ganwyd dwy ferch iddynt, yr actoresau Emma and Sophie Corbett. Roedd gan eu plentyn cyntaf, Andrew, nam ar y galon a bu farw, yn chwe mlwydd oed, yn Ysbyty St Thomas.[2] Roedd Corbett yn byw yn Shirley, Croydon, am sawl blwyddyn. Roedd ganddo ail gartref yn Gullane, East Lothian, yn yr Alban. Roedd yn cadw gwenyn a roedd ganddo gychod gwenyn yn ei gartref yn yr Alban.[3]
Roedd Corbett yn golffiwr a ymddangosodd mewn sawl digwydd enwogion a pro-amatur; yn 2009 fe wnaeth rhaglen ddogfen gyda Colin Montgomerie lle bu'r ddau yn chwarae yn Gleneagles.[4] Roedd yn gefnogwr brwd o griced, a roedd Corbett yn lywydd yr elusen criced Lord's Taverners (1982 a 1987).[5] Roedd yn cefnogi ei glwb pêl-droed lleol, Crystal Palace, a clwb ei dref gartref, Heart of Midlothian.[6]
Yn Awst 2014, roedd Corbett yn un o 200 ffigwr cyhoeddus a arwyddodd lythyr i The Guardian yn gwrthwynebu Annibynniaeth i'r Alban yn y cyfnod cyn refferendwm ar y mater yn Medi.[7]
Marwolaeth
golyguBu farw Corbett ar 31 Mawrth 2016, yn 85 gyda'i deulu o'i gwmpas.[8] Mae'n gadael gwraig a dau ferch. Canfuwyd ei fod yn dioddef o glefyd niwronau motor yn Mawrth 2015.[9][10]
Dywedodd y digrifwr John Cleese fod gan Corbett yr "amseru gorau" a welodd erioed, a dywedodd Hugh Laurie ei fod yn ddyn "hyfryd, dawnus". Cafwyd teyrnged gan y digrifwr Rob Brydon, oedd yn enwog am ddynwared Corbett, gan ddweud ei fod yn "un o'r mawrion, dyn mawr a ffrind mawr. Roedd yn un o'r bobl arbennig hynny" [11]
Ffilmyddiaeth
golyguTeledu
golyguBlwyddyn | Teitl | Rhan |
---|---|---|
1952 | You're Only Young Twice (film) | Myfyriwr |
1953 | Rheingold Theatre | Hwligan ifanc |
1955 | The Vise | |
1957 | Sheep's Clothing | Gwas |
1963 | The Saint | Galwr |
1966-1967 | The Frost Report | Amryw rannau |
1967-1970 | No – That's Me Over Here! | Ronnie |
1969 | Hark at Barker | |
1970 | Jackanory | Adroddwr stori |
1971-1973 | Now Look Here | Ronnie |
1974 | The Prince of Denmark | Ronnie |
1971-1987 | The Two Ronnies | Ei hun & Nifer o gymeriadau |
1981-1988 | Sorry! | Timothy Lumsden |
1994-1996 | Small Talk | Gwestai |
1998 | Timbuctoo | Adroddwr & Pob Cymeriad Heblaw Giant Squeak |
1998 | The Ben Elton Show | Ei hun |
2000 | Cinderella ITV Panto | Griselda (Un o'r Chwiorydd Hyll) |
2004 | The Keith Barret Show | Ei hun gyda'i wraig |
2004 | Monkey Trousers | Amryw rannau |
2005 | The Two Ronnies Sketchbook | |
2006 | Extras | Ei hun |
2006 | Little Britain Abroad | Ei hun |
2008 | Love Soup | Gordon Baxter |
2009 | Sarah Jane Adventures (Comic Relief) | Llysgennad "Rani" Ranius/Slitheen |
2009 | Strictly Come Dancing | Gwestai |
2010 | Ant and Dec's Push The Button | Troslais |
2010 | The One Ronnie | Ei hun |
2011 | Ronnie Corbett's Comedy Britain | Ei hun |
2013 | Ronnie's Animal Crackers | Ei hun |
Ffilm
golyguYear | Title | Role |
---|---|---|
1952 | You're Only Young Twice | Myfyriwr |
1956 | Fun at St. Fanny's | Chumleigh |
1957 | Rockets Galore! | Drooby |
1962 | Operation Snatch | Soldier (heb gydnabyddiaeth) |
1967 | Casino Royale | Polo |
1970 | Some Will, Some Won't | Herbert Russell |
1970 | The Rise and Rise of Michael Rimmer | Cyfwelydd |
1973 | No Sex Please, We're British | Brian Runnicles |
1997 | Fierce Creatures | Reggie Sea Lions |
2010 | Burke and Hare | Captain Tam McLintoch |
Llyfryddiaeth
golygu- Corbett, Ronnie; Nobbs, David (2006). And It's Goodnight From Him ... Michael Joseph, Penguin. ISBN 0-7181-4964-5.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Barratt, Nick (23 June 2006). "Family detective". The Daily Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-08. Cyrchwyd 12 Ionawr 2008.
- ↑ 2.0 2.1 "Desert Island Discs with Ronnie Corbett". Desert Island Discs. 21 Hydref 2007. BBC. Radio 4. http://www.bbc.co.uk/radio4/factual/desertislanddiscs_20071021.shtml.
- ↑ Jackson, Peter (5 Awst 2009). "Is urban beekeeping the new buzz?". BBC. Cyrchwyd 22 Ionawr 2012.
- ↑ "Ronnie Corbett: golf". programmes.stv.tv. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-20. Cyrchwyd 21 April 2010.
- ↑ "The Lord's Taverners". lordstaverners.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-03-30. Cyrchwyd 21 Ebrill 2010.
- ↑ "Comedian Ronnie Corbett launches Welsh Premier League". BBC Sport. 14 Awst 2012. Cyrchwyd 12 Ionawr 2014.
- ↑ "Celebrities' open letter to Scotland – full text and list of signatories". The Guardian. London. 7 Awst 2014. Cyrchwyd 26 Awst 2014.
- ↑ (Saesneg) Ronnie Corbett dies. 'The Independent' (31 Mawrth 2016).
- ↑ "Ronnie Corbett's devoted wife Anne reveals his secret battle with deadly motor neurone disease: Comedian was dignified to the end and 'never once grumbled' about his cruel illness". Daily Mail. 1 April 2016. Cyrchwyd 1 April 2016.
- ↑ "Ronnie Corbett, 'true great' of British TV comedy, dies aged 85". Guardian. 31 March 2016. http://www.theguardian.com/tv-and-radio/2016/mar/31/ronnie-corbett-dies-aged-85. Adalwyd 1 April 2016.
- ↑ Turner, Lauren; Smith, Keily (31 March 2016). "Reaction to Ronnie Corbett death". Cyrchwyd 31 March 2016.