Ffeminist a swffragét o Iwerddon oedd Rosamund Jacob (13 Hydref 1888 - 11 Hydref 1960) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, awdur plant ac ymgyrchydd dros bleidlais i ferched. Ei henw-awdur oedd F. Winthrop,[1] a'i henw Gwyddelig oedd Róisín Nic Sheamuis.[2]

Rosamund Jacob
FfugenwF. Winthrop Edit this on Wikidata
Ganwyd13 Hydref 1888 Edit this on Wikidata
South Parade Edit this on Wikidata
Bu farw11 Hydref 1960 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Galwedigaethllenor, nofelydd, awdur plant, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, swffragét Edit this on Wikidata

Crynwyr oedd ei rhieni, Lewis Jacob a Henrietta Harvey, ac fe'i ganed yn South Parade, Waterford lle bu'n byw tan 1920.[3]

Roedd yn ymgyrchydd gydol oes dros achos a hawliau merched, achosion gweriniaethol a sosialaidd ac roedd yn awdur ffuglen. Enw ei nofel gyntaf oedd Callaghan ac fe'i cyhoeddwyd ym 1920.

Y gweriniaethwr

golygu

Ynghyd â'i brawd Tom, roedd Rosamund Jacob yn aelod o Sinn Féin o 1905 ymlaen, ac yn ddiweddarach Fianna Fáil. Roedd hefyd yn aelod o Gymdeithas Cumann na mBan, y Gynghrair Aeleg a Chynghrair Etholfraint Menywod Iwerddon (the Irish Women's Franchise League). Gwrthwynebai Cytundeb Eingl-Wyddelig 1921 ac roedd yn ymwneud yn arbennig â sefydliadau asgell chwith a gweriniaethol yn y 1920au a'r 1930au. Cafodd ei charcharu yng Ngharchar Mountjoy yn ystod Rhyfel Cartref Iwerddon, sef y Cogadh Cathartha na hÉireann.[1][4][5][6]

Yn 1931 teithiodd i Rwsia fel cynrychiolydd Cyfeillion Gwyddelig Rwsia Sofietaidd. Bu'n rhan o Gynghrair Ryngwladol y Merched dros Heddwch a Rhyddid ac yn ddiweddarach a bu'n aelod o Gymdeithas Gwragedd Iwerddon.[7]

Yn y 1920au a'r 1930au bu mewn perthynas â chyd-weriniaethwr, Frank Ryan. Chwaraeodd ran flaenllaw yn yr ymgyrch wleidyddol i sicrhau rhyddid Ryan rhag Sbaenwr Cenedlaetholgar, ac yn ddiweddarach gweithiodd i amddiffyn ei enw da, wedi i'r newyddion am ei farwolaeth yn yr Almaen Natsïaidd ddod yn hysbys.

Bu'n byw yn ardal Belgrave Square, yn ardal Rathmines yn Nulyn o 1942. O 1950, rhannodd dŷ gyda'i ffrind Lucy Kingston yn 17 Charleville Road. Cadwodd Rosamond Jacob ddyddiadur bron bob diwrnod o'i bywyd, ac mae 171 o'r dyddiaduron hyn ymhlith ei phapurau llenyddol a gwleidyddol a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Iwerddon.

Anrhydeddau

golygu


Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Jacob, Rosamund (1888–1960)". Women in World History: A Biographical Encyclopedia. Yorkin. 2002. ISBN 978-0-7876-3736-1. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-11. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  2. "Census of Ireland 1911". National Archives. Cyrchwyd 2014-05-13.
  3. Dyddiad geni: "Rosamond Jacob".
  4. www.ul.ie; adalwyd 2 Mai 2019.
  5. "Rosamond Jacob (1888-1960)". Ricorso.net. 2011-01-08. Cyrchwyd 2014-04-10.
  6. "Figures depicted in the film". Queen's University Belfast. Cyrchwyd 2014-05-13.
  7. "Queen's University Belfast | Rosamond Jacob and Frank Ryan". Qub.ac.uk. Cyrchwyd 2014-04-10.