Rosetta (cerbyd gofod)
Chwiliedydd gofod robotaidd yw Rosetta a adeiladwyd ac a lawnsiwyd gan yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd. Gyda'i fodiwl glanio Philae, mae'n cynnal nifer o ymchwiliadau gwyddonol o'r comed 67P/Churyumov–Gerasimenko (67P).[1][2] Gwibiodd hefyd yn agos i'r blaned Mawrth a'r asteroidau 21 Lutetia a 2867 Šteins. Ar 12 Tachwedd 2014 llwyddwyd i lanio ar gomed - am y tro cyntaf yn hanes gwyddoniaeth y gofod. Yn Awst 2015 roedd data Philae yn parhau i gael ei ddanfon i'r fam gerbyd Rosetta, a'i drosglwyddo ymhellach i'r Ddaear.
Enghraifft o'r canlynol | comet probe |
---|---|
Màs | 3,000 cilogram |
Rhan o | Horizon 2000 |
Yn cynnwys | Philae |
Gweithredwr | Asiantaeth Ofod Ewropeaidd |
Gwneuthurwr | Astrium |
Hyd | 2.8 metr |
Gwefan | http://rosetta.esa.int |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dyma un o gonglfeini holl waith ESA. Mae'r prosiect yn cynnwys yr orbitiwr Rosetta ei hun, gyda 12 o offerynnau arno a Philae - glaniwr gyda 9 offeryn. Cynlluniwyd y prosiect gyda'r gobaith y byddai Rosetta'n orbitio 67P am gyfnod o 17 mis, gan wneud yr ymchwiliadau mwyaf manwl yn hanes ymchilio'r gofod. Caiff i cerbyd ei rheoli gan Ganolfan Rheoli'r Gofod, Ewrop (European Space Operations Centre, neu ESOC) yn Darmstadt, yr Almaen. Cynlluniwyd ei phrif lwyth (neu'r payload) a'r trin data, yr archifo a dosbarthu gwybodaeth o Ganolfan Ewropeaidd Seryddiaeth y Gofod (European Space Astronomy Centre neu ESAC) yn Villanueva de la Cañada, ger Madrid, Sbaen. Yn y ddegawd cyn 2014 amcangyfrifir fod oddeutu 2,000 o bobl wedi cynorthwyo gyda'r gwaith a'r prosiect.
Daeth taith Rosetta i ben ar 30 Medi 2016, drwy ddilyn llwybr bwriadol i daro fewn i'r comed ger pydew o'r enw Deir el-Medina. Fe fydd buanedd y gwrthdrawiad yn weddol isel ond disgwylir i ddarnau o'r chwiliedydd gael ei ddinistrio. Fe fydd holl systemau ar y cerbyd yn cau lawr cyn hyn.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Agle, D. C.; Brown, Dwayne; Bauer, Markus (30 Mehefin 2014). "Rosetta's Comet Target 'Releases' Plentiful Water". NASA. Cyrchwyd 30 Mehefin 2014.
- ↑ Chang, Kenneth (5 Awst 2014). "Rosetta Spacecraft Set for Unprecedented Close Study of a Comet". The New York Times. Cyrchwyd 5 Awst 2014.
- ↑ Rosetta probe set for comet collision (en) , BBC News, 30 Medi 2016.