Rosina Davies (efengyles)

efengyles o Gymraes
(Ailgyfeiriad o Rosina Davies (Efengyles))

Roedd Rosina Davies (2 Medi 1863 - 21 Hydref 1949) yn Efengyles ddylanwadol o Gymru a fu'n pregethu'r Efengyl Gristnogol mewn cyfnod pan oedd nifer o anghydffurfwyr Cymru yn credu: Yn ôl y drefn ym mhob un o eglwysi'r saint, dylai'r gwragedd fod yn ddistaw yn yr eglwysi, oherwydd ni chaniateir iddynt lefaru. Dylent fod yn ddarostyngedig, fel y mae'r Gyfraith hefyd yn dweud. Os ydynt am gael gwybod rhywbeth, dylent ofyn i'w gwŷr eu hunain gartref, oherwydd peth anweddus yw i wraig lefaru yn y gynulleidfa. (1 Cor 14:33-35)[1][2]

Rosina Davies
Ganwyd2 Medi 1863 Edit this on Wikidata
Treherbert Edit this on Wikidata
Bu farw21 Hydref 1949 Edit this on Wikidata
Glan-y-fferi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcenhadwr Edit this on Wikidata
MamHanna Davies Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Davies yn Bute Street, Treherbert, Morgannwg, y drydedd o chwe phlentyn David Davies glöwr a Hanna, (née Jones), ei wraig. Roedd Hanna Jones yn chwaer i hen fam-gu'r actores Siân Phillips [3].

O ganlyniad i afiechyd, prin bu addysg ffurfiol Davies.

Daeth o dan ddylanwad Byddin yr Iachawdwriaeth a dechreuodd canu a rhannu tystiolaeth yn eu cyfarfodydd. Daeth yn aelod o Gapel Libanus, Y Methodistiaid Calfinaidd, ym Maesteg.

Cenhadaeth

golygu

Yn 14 oed gadawodd ei chartref, yn groes i ewyllys ei rhieni, i gynorthwyo gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth yn ardal Maesteg. Oherwydd ei hoedran a'i rhiw roedd peth wrthwynebiad i'w gwaith.

Tua 1881, yng nghwmni Mary Charlotte Phillips, cychwynnodd ar y cyntaf o gannoedd o deithiau pregethu trwy Gymru gan ddod yn un o Efengylwyr a chantorion crefyddol mwyaf adnabyddus y genedl.

I wella ei llais ymunodd a'r Royal Academy of Music, Llundain ar gwrs byr ym 1886. Wedi ymadael a'r coleg ym mhen blwyddyn aeth ar daith ym 1887 lle fu hi'n pregethu a chanu mewn oedfaon yn ddyddiol am gyfnod o ddeg mis ond cymerodd y daith flinedig ei doll a chafodd ei gorfodi i orffwys am sbel i adfer ei hiechyd.

Yn 1893, derbyniodd Davies wahoddiad i fynd ar daith pymtheng mis i eglwysi Cymreig Unol Daleithiau America gan ymwelwyd â chapeli o Efrog Newydd i Califfornia[4]. Yn ystod ei arhosiad cymerodd rhan yn Eisteddfod Ffair y Byd, Chicago. Ym 1897 aeth ar ail daith i'r Unol Daleithiau, ond cafodd yr ymweliad ei gwtogi ar sail iechyd.

Yn ôl adref yng Nghymru bu hi'n parhau i bregethu, ond bu pyliau rheolaidd o salwch a baich cyfrifoldebau domestig ychwanegol, yn dilyn marwolaeth ei thad yn 1902, yn ei gwneud yn anodd iddi gyflawni ei holl ymrwymiadau cyhoeddus. Erbyn 1903, fodd bynnag, ail afaelodd ar ei dyletswyddau efengylaidd gan gynnal cyfres o deithiau llwyddiannus ar draws Cymru a rhannau o Loegr.

Ym 1904 derbyniodd Davies gais gan Undeb yr Annibynwyr i gynnal cenadaethau mewn rhannau o Gymru lle roedd achos yr Annibynwyr yn wan, gan barhau yn y gwaith hyd 1916[5].

Bu Davies yn ffigwr amlwg mewn cyfarfodydd cysylltiedig â Diwygiad 1904-1905 yng Ngogledd Cymru.

Roedd ganddi ddiddordeb arbennig mewn efengylu ym mysg fenywod ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu hi ar daith o amgylch ffatrïoedd, megis ffatrïoedd gwneud arfau, lle fu merched yn bennaf yn gweithio trwy absenoldeb y dynion ar y ffrynt.

Ym 1916 cafodd ei phenodi yn ysgrifennydd Undeb Dirwestol Merched y De gan barhau yn y swydd hyd 1930.

Rhwng 1930 a 1931 aeth Davies ar ei thrydedd daith Americanaidd gan ymweld ag achosion crefyddol yn yr UDA a Chanada. Oherwydd anawsterau ariannol ymddeolodd o waith cenhadol gweithgar yn y 1940au cynnar.

Bywgraffiad

golygu

Ym 1942 cyhoeddodd ei hunangofiant, The Story of my Life; yn seiliedig, i raddau helaeth, ar gofnodion o'i dyddiaduron, mae'r gwaith yn darparu adroddiad manwl o'i bywyd a golwg difyr ar fywyd cymdeithasol a chrefyddol Cymru o ddiwedd y 14g ymlaen.[6]

Marwolaeth

golygu

Bu farw Davies yn ei chartref yng Nglan-y-fferi a chafodd ei chladdu ym Mynwent Treorci.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Beibl Cymraeg Newydd, Cymdeithas y Beibl 1988, Llythyr Cyntaf Paul at y Corinthiaid Pennod 14 adnodau 33-35
  2. Mari A. Williams, ‘Davies, Rosina (1863–1949)’, Oxford Dictionary of National Biography (Oxford University Press, 2004) adalwyd 11 Rhag 2015
  3. BBC Cymru Coming Home - Siân Phillips; Cyfres 10, Rhaglen 1, darlledwyd gyntaf 27 Tachwedd 2015
  4. "MISS ROSINA DAVIES - Y Drych". Mather Jones. 1893-07-20. Cyrchwyd 2015-12-11.
  5. "UNDEB BEDYDDWYR SIR FFLINT - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1914-03-06. Cyrchwyd 2015-12-11.[dolen farw]
  6. Davies, Rosina The Story of my Life, Gwasg Gomer, Llandysul, 1942