Glan-y-fferi

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref yn Sir Gaerfyrddin yw Glan-y-fferi neu Glanyfferi (Saesneg: Ferryside).

Glan-y-fferi
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanismel Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.77°N 4.37°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN366103 Edit this on Wikidata
Map

Saif y pentref ar lan dwyreiniol Afon Tywi, tua 14 km i'r de o dref Caerfyrddin. Saif Llansteffan yn union gyferbyn a Glan-y-fferi ar y lan orllewinol, a'r fferi i Lansteffan a roddodd ei enw i'r pentref. Defnyddiwyd y fferi yma gan Gerallt Gymro ar ei daith o amgylch Cymru yn 1188.

Tyfodd y pentref yn ystod y 19g pan gafodd gysylltiad rheilffordd ar yr hyn sy'n awr yn Reilffordd Gorllewin Cymru, y llinell rhwng Caerfyrddin ac Abertawe. Ceir yma swyddfa'r post, gwesty, caffi a thafarn.

Ar un adeg roedd hel cocos yn ddiwydiant pwysig iawn yma; roedd Glan-y-fferi yn un o ganolfannau pwysicaf diwydiant cocos Bae Caerfyrddin. Erbyn hyn, dim ond yn ysbeidiol yr agorir y gwelyau cocos. Pan agorir hwynt, daw cannoedd o gasglwyr cocos o bellter i gymeryd mantais ar hyn. Yn 1993 bu ymladd rhwng aelodau gangiau hel cocos o Benrhyn Gŵyr, Lerpwl a Glasgow ar y traethau.

Bu'r cadfridog Syr Thomas Picton, a laddwyd ym Mrwydr Waterloo, yn byw yn y pentref, ym Mhlas Iscoed. Bellach mae'r Plas yn adfeilion.

Ar 30 Mawrth 2005, Glan-y-fferi a Llansteffan oedd yr ardaloedd cyntaf yn y DU i golli eu signal teledu analog. Pleidleisiodd y trigolion dros symud i signal digidol ar ôl cymryd rhan mewn arbrawf.

Traeth Glan-y-fferi