Rowland Williams (diwinydd)

clerigwr ac ysgolhaig

Roedd y Parchedig Athro Rowland Williams (16 Awst 181718 Ionawr 1870) yn is-brifathro ac athro Hebraeg Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan o 1849 hyd 1862. Ystyrid ef yn un o ddiwinyddion mwyaf dylanwadol y 19g. Roedd hefyd yn fardd a gyhoeddai dan ei enw barddol Goronva Camlann. Roedd yn frodor o Helygain yn Sir y Fflint.

Rowland Williams
Ganwyd16 Awst 1817 Edit this on Wikidata
Helygain Edit this on Wikidata
Bu farw1870 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethieithydd, bardd Edit this on Wikidata

Diwinydd golygu

Wedi iddo gyhoeddi Essays and Reviews yn 1860, lle beirniadodd wrthwynebwyr y feirniadath Feiblaidd newydd oedd yn dod o'r Almaen, rhoddwyd ef ar ei brawf o flaen llys eglwysig am heresi a'i gael yn euog. Fodd bynnag, newidiwyd y ddedfryd pan apeliodd i'r Cyfrin Gyngor.

Bardd golygu

Cyhoeddodd sawl cyfrol o farddoniaeth Saesneg ar themâu Cymreig dan yr enw barddol 'Goronva Camlann', yn cynnwys Lays from the Cimbric Lyre (1846). Mae'r cerddi hyn yn mynegi dicter yr awdur at y sarhad cyson a nawddoglyd ar y Cymry gan rhai Saeson cyfoes (dyma gyfnod Brad y Llyfrau Gleision) ac yn pwysleisio hynafiaeth y Cymry a'u diwylliant yn ynysoedd Prydain.[1]

Etifeddiaeth golygu

Ystyrir mai ef oedd y person cyntaf i ddod a rygbi'r undeb i Gymru; y tîm a ffurfiodd ef yn Llambed oedd y cyntaf y gwyddir amdano yng Nghymru.[angen ffynhonnell]

Agorodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ganolfan ymchwil newydd yn Llambed yn 2005 sydd wedi ei henwi ar ôl Rowland Williams.

Cyfeiriadau golygu

  1. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).