Dafydd Elis-Thomas
Gwleidydd o Gymro oedd Dafydd Elis-Thomas, Arglwydd Elis-Thomas (18 Hydref 1946 – 7 Chwefror 2025).[1] Bu'n arweinydd Plaid Cymru rhwng 1984 a 1991 a chynrychiolodd etholaeth Meirionnydd/Meirionnydd Nant Conwy yn San Steffan rhwng 1974 ac 1992. Roedd yn aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig a daeth yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi yn 1992.
Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Elis-Thomas | |||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() | |||||||||||||||||||||||||||
Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon | |||||||||||||||||||||||||||
Yn ei swydd 3 Tachwedd 2017 – 12 Mai 2021 | |||||||||||||||||||||||||||
Prif Weinidog | Carwyn Jones Mark Drakeford | ||||||||||||||||||||||||||
Rhagflaenwyd gan | Ken Skates | ||||||||||||||||||||||||||
Dilynwyd gan | Dawn Bowden | ||||||||||||||||||||||||||
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru | |||||||||||||||||||||||||||
Yn ei swydd 12 Mai 1999 – 11 Mai 2011 | |||||||||||||||||||||||||||
Rhagflaenwyd gan | Swydd newydd | ||||||||||||||||||||||||||
Dilynwyd gan | Rosemary Butler | ||||||||||||||||||||||||||
Aelod o Senedd Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd Meirionnydd Nant Conwy (1999–2007) | |||||||||||||||||||||||||||
Yn ei swydd 6 Mai 1999 – 6 Mai 2021 | |||||||||||||||||||||||||||
Rhagflaenwyd gan | Swydd newydd | ||||||||||||||||||||||||||
Dilynwyd gan | Mabon ap Gwynfor | ||||||||||||||||||||||||||
Mwyafrif | 8,868 (40.1%) | ||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||
Manylion personol | |||||||||||||||||||||||||||
Ganwyd | Dafydd Elis Thomas 18 Hydref 1946 Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin | ||||||||||||||||||||||||||
Bu farw | 7 Chwefror 2025 | (78 oed)||||||||||||||||||||||||||
Plaid wleidyddol | Annibynnol | ||||||||||||||||||||||||||
Cysylltiadau gwleidyddol arall | Plaid Cymru (1970–2016) | ||||||||||||||||||||||||||
Priod | Elen Williams Mair Parry Jones (presennol) | ||||||||||||||||||||||||||
Plant | 3 |
Yn 1999 fe'i hetholwyd yn Aelod Cynulliad dros Ddwyfor Meirionnydd. Daeth yn Llefarydd cyntaf y Cynulliad o'r cychwyn yn 1999 hyd at 2011. Fe'i hail-etholwyd i'r Cynulliad yn Mai 2016 ond gadawodd Blaid Cymru ym mis Hydref gan aros fel aelod annibynnol hyd ei ymddeoliad cyn etholiad Mai 2021.[2]
Roedd yn Llywydd Prifysgol Bangor ac yn Llywydd Anrhydeddus Searchlight Cymru yn ogystal.
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd Dafydd Elis-Thomas yng Nghaerfyrddin, yn fab i weinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a chafodd ei fagu yn Llandysul a Llanrwst.[3][4] Mynychodd Ysgol Dyffryn Conwy ac yna bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1964 a 1970. Graddiodd yn 1967 gyda gradd yn y Gymraeg ac arhosodd i wneud gwaith ymchwil gan gael doethuriaeth mewn Athroniaeth ac Astudiaethau Llenyddol.[5] Bu'n ddarlithiwr ym Mangor cyn mynd i fyd gwleidyddiaeth. Yn 2000, fe'i gwnaed yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor ac ef oedd Canghellor y Brifysgol rhwng 2000 a 2017.[6]
Gyrfa
golyguFe’i hetholwyd yn Aelod Seneddol yn Chwefror 1974, yr un adeg â Dafydd Wigley, pan etholwyd dau aelod seneddol Plaid Cymru, ac yn dilyn etholiad mis Hydref, dri aelod seneddol am y tro cyntaf. Ar y cychwyn, ef oedd yr aelod ieuengaf yn y Tŷ Cyffredin. Penderfynodd sefyll lawr o San Steffan yn 1992 '"er mwyn wynebu sialens newydd". Rhai misoedd yn ddiweddarach fe’i henwebwyd i fod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi, fel yr Arglwydd Elis-Thomas. Yn wreiddiol roedd yn eistedd ar y croesfeinciau (crossbenches), ond fe gymerodd chwip Plaid Cymru yn 2012.[7]
O 1992 i 1998 roedd yn gadeirydd Bwrdd yr Iaith, ac roedd ganddo ran bwysig yn creu Deddf yr Iaith Gymraeg (1993) a roddodd statws o gydraddoldeb rhwng y Gymraeg a'r Saesneg am y tro cyntaf, a hybu dwyieithrwydd yng Nghymru.[7]
Yn Hydref 2016, pum mis ar ôl ei ail-ethol fel aelod o'r Cynulliad, penderfynodd adael Plaid Cymru oherwydd yn ei eiriau ef "nad oes unrhyw fwriad gan Plaid i chwarae rhan fwy cadarnhaol yn y Cynulliad". Dywedodd cangen Dwyfor Meirionnydd o Blaid Cymru y dylai alw is-etholiad ond dywedodd Elis-Thomas nad oedd ganddo unrhyw fwriad i wneud hynny.
Eisteddodd fel aelod annibynnol ers hynny. Ar 3 Tachwedd 2017 ymunodd â chabinet Llywodraeth Cymru gan gymryd swydd oedd wedi bod yn wag am flwyddyn sef y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon.
Cyhoeddodd ar raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru, 12 Ebrill 2020 nad oedd am sefyll yn Etholiad nesaf Senedd yn 2021. Ar ôl ystyriaeth hir dywedodd nad oedd yn cystadlu yn Dwyfor Meirionnydd yn 2021, ond dywedodd fod yna lawer o ffyrdd eraill o wasanaethu cymdeithas. Dywedodd ar y rhaglen "Mae 'na fwy i fod yn ddinesydd da na bod yn wleidydd etholedig am fwy na 40 mlynedd."
"Gan 'mod i yn cyrraedd, neu wedi cyrraedd, y cyfnod yna o gynrychioli Meirionydd beth bynnag - onid yn gwbl gyson ar hyd y cyfnod yna - am fwy na deugain mlynedd, fydda fo ddim yn gwneud llawer o synnwyr i sefyll etholiad gan wybod y byddwn i'n 78 erbyn diwedd y Cynulliad nesa."[8][9]
Bywyd personol
golyguYm 1970 priododd Elen M. Williams a ganwyd tri mab iddynt. Wedi ysgariad, bu'n bartner i Marjorie Thompson, cadeirydd CND. Ym 1993 priododd Mair Parry Jones a roeddent yn byw yn Llandaf, Caerdydd pan oedd yn gweithio yng Nghaerdydd ac ym Betws-y-Coed fel arall. Yng nghofnodion swyddogol San Steffan cyfeirir ato fel "Dafydd Elis Elis-Thomas".[10]
Marwolaeth a theyrngedau
golyguBu farw yn ei gartref wedi salwch byr, yn 78 mlwydd oed.[1]
Cafwyd llu o deyrngedau iddo. Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan fod "Cymru wedi colli un o'i gweision pennaf, ac mae llawer ohonom wedi colli cyfaill arbennig iawn. Roedd Dafydd yn gawr yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yn danbaid dros hyrwyddo ein cenedl, ein hiaith, a'n diwylliant. Ar lefel bersonol, bu Dafydd yn ysbrydoliaeth i mi ers fy nyddiau cynnar mewn gwleidyddiaeth."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod "colli Dafydd yn ergyd drom i wleidyddiaeth Cymru a bywyd sifig ein cenedl. Yn ddi-os roedd Dafydd yn un o ffigyrau mwyaf dylanwadol ac arwyddocaol ei genhedlaeth, a fel Llywydd y Cynulliad cyntaf gwnaeth gyfraniad amhrisiadwy i osod seiliau cadarn i ddatganoli."
Dywedodd Llywydd cyfredol y Senedd, Elin Jones mai Dafydd Elis-Thomas oedd y "person iawn ar yr amser iawn" i fod yn Llywydd cyntaf. "Mae wedi bod yn holl bresennol mewn gymaint o ddigwyddiadau mawr ein hanes ni," meddai.
Dywedodd Dafydd Wigley "Roedd cyfraniad Dafydd i'w wlad yn enfawr, gan dorri drwy sawl rhwystr oedd wedi atal y mudiad cenedlaethol am ddegawdau. Ac ef, mwy na'r un unigolyn arall, a sicrhaodd fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi ei seilio ar egwyddorion cadarn."
Dywedodd cyn-lywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan mewn sylw ar y cyfryngau cymdeithasol: "Bydd Cymru'n dlotach a mwy di-liw wedi colli Dafydd, ac anfonaf gofion cynnes at Mair a'r teulu oll"
Dywedodd cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones fod Cymru ar ei cholled o beidio fod wedi gweld Elis-Thomas yn arwain y wlad. Ychwanegodd Mr Jones fod arweiniad Elis-Thomas yn ystod ei gyfnod gyda Bwrdd yr Iaith "yn glir ac yn gadarn". "Roedd e’n gadeirydd da iawn achos oedd gyda fe feddwl strategol clir, ac agenda yn ei ben ac eto roedd e’n gallu swyno pobl yr un pryd," meddai.
Roedd yr awdur a newyddiadurwr, y Dr Aled Eirug wedi bod yn paratoi cofiant i Dafydd Elis-Thomas ers cryn amser. Dywedodd fod ei gyfraniad wedi bod yn "gwbl allweddol" i ddatblygiad Cymru fel cenedl.[11]
Proffesiynol
golyguDyma rai o'i swyddi proffesiynol:
- Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg: rhwng 1994 a 1999
- Cyn-aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru
- Cyn-aelod o'r British Film Institute lle roedd yn Gadeirydd Screen rhwng 1992 a 1999
- Cyfarwyddwr ac Is-gadeirydd Cynefin Environmental Ltd. rhwng 1992 a 1999
- Tiwtor Cymraeg yng Ngholeg Harlech[12] a Llywydd Prifysgol Bangor ers 2000.
- Aelod o Gorff Llywodraethol Yr Eglwys yng Nghymru
Llenor
golyguRoedd yn awdur ar nifer o lyfrau gan gynnwys Cyfansoddi Ewrop - Helaethu Ffiniau.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: William Edwards |
Aelod Seneddol dros Feirionnydd 1974 – 1983 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Feirionnydd Nant Conwy 1983 – 1992 |
Olynydd: Elfyn Llwyd |
Rhagflaenydd: Bernadette Devlin |
Baban y Tŷ 1974 |
Olynydd: Hélène Hayman |
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
Rhagflaenydd: swydd newydd |
Aelod Cynulliad dros Feirionnydd Nant Conwy 1999 – 2007 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Cynulliad dros Ddwyfor Meirionnydd 2007 – 2021 |
Olynydd: Mabon ap Gwynfor |
Seddi'r cynulliad | ||
Rhagflaenydd: Dim |
Llywydd y Cynulliad 1999 – 2011 |
Olynydd: Rosemary Butler |
Swyddi gwleidyddol pleidiol | ||
Rhagflaenydd: Dafydd Wigley |
Llywydd Plaid Cymru 1984 – 1991 |
Olynydd: Dafydd Wigley |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi marw yn 78 oed". BBC Cymru Fyw. 2025-02-07. Cyrchwyd 2025-02-07.
- ↑ "Elis-Thomas wedi gadael am ddiffyg cydweithio â Llafur". BBC Cymru Fyw. 2016-10-14. Cyrchwyd 2016-10-15.
- ↑ "Dafydd Elis-Thomas AM". BBC Democracy Live website. BBC. 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-24. Cyrchwyd 3 Mai 2013.
- ↑ "Dafydd Elis-Thomas AM". Gwefan Plaid Cymru. Plaid Cymru. 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-10. Cyrchwyd 3 Mai 2013.
- ↑ "Elis-Thomas, Baron, (Dafydd Elis Elis-Thomas) (born 18 Oct. 1946)". WHO'S WHO & WHO WAS WHO (yn Saesneg). doi:10.1093/ww/9780199540884.013.u14808. Cyrchwyd 2025-02-09.
- ↑ "Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas 1946-2025". Bangor University. Cyrchwyd 2025-02-09.
- ↑ 7.0 7.1 "Dafydd Elis-Thomas: Bywyd mewn gwleidyddiaeth". BBC Cymru Fyw. 2021-05-18. Cyrchwyd 2025-02-08.
- ↑ "Dafydd Elis-Thomas ddim am geisio adennill ei sedd". BBC Cymru Fyw. 2020-04-12. Cyrchwyd 2020-04-12.
- ↑ Rhaglen radio, Dewi Llwyd ar fore Sul. "Dim bwriad i ailsefyll - Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd". BBC Sounds - radio Cymru.
- ↑ "Contact information for Lord Elis-Thomas - MPs and Lords - UK Parliament". members.parliament.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-02-09.
- ↑ "Teyrngedau i'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 2025-02-08.
- ↑ "BBC News | People in the Assembly". news.bbc.co.uk (yn Saesneg). 1999-09-01. Cyrchwyd 2015-12-30.