Rudolf Kjellén
Gwyddonydd gwleidyddol a gwleidydd o Sweden oedd Johan Rudolf Kjellén (13 Mehefin 1864 – 14 Tachwedd 1922) sy'n nodedig am lunio damcaniaeth geidwadol y wladwriaeth ac am fathu'r gair daearwleidyddiaeth (Swedeg: geopolitik).
Rudolf Kjellén | |
---|---|
Ganwyd | Johan Rudolf Kjellén 13 Mehefin 1864 Q10700467 |
Bu farw | 14 Tachwedd 1922 Uppsala domkyrkoförsamling |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwyddonydd gwleidyddol, academydd, gwleidydd, daearyddwr |
Swydd | Q18342962, member of the First Chamber, member of the Second Chamber |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Q111104528, National Party, Q111103693 |
Plant | Ruth Kjellén-Björkquist |
Ganwyd yn Torsö, ynys yn llyn Vänern. Astudiodd ym Mhrifysgol Uppsala, ac addysgodd ym mhrifysgolion Göteborg o 1891 i 1916 ac Uppsala o 1916.
Ysgrifennodd Kjellén sawl gwaith sy'n ymdrin yn systematig â'r wladwriaeth fodern drwy ei hystyried yn system organig sy'n ffynnu ac yn dirywio. Yn ogystal â'r term geopolitik, sy'n disgrifio'r problemau a'r amodau o ganlyniad i ddaearyddiaeth y wladwriaeth, fe fathodd hefyd y termau oecopolitik (y ffactorau economaidd sy'n effeithio ar rym y wladwriaeth) a demopolitik (elfennau ethnig y boblogaeth a'r problemau sy'n codi o'u herwydd).[1]
Yn ddiweddarach yn ei yrfa, dadansoddodd wahanol gyfansoddiadau cenedlaethol. Gwasanaethodd yn aelod o blaid geidwadol y Cynghrair Etholiadol Cyffredinol (Moderaterna heddiw) yn Is Siambr y Riksdag o 1905 i 1908 ac yn yr Uwch Siambr o 1911 i 1917.
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd Johan Rudolf Kjellén ar 13 Mehefin 1864 mewn ficerdy ar ynys Torsö yn llyn Vänern, yn ne orllewin Sweden. Ar y pryd, roedd y wlad yn rhan o Deyrnasoedd Unedig Sweden a Norwy. Cafodd ei fagu mewn cymuned Lwtheraidd geidwadol. Aeth i Brifysol Uppsala yn nwyrain Sweden yn 1880, ac yno fe ddaeth dan ddylanwad yr Athro Oscar Alin, yr hwn oedd yn ddiweddarach yn un o arweinwyr y ceidwadwyr yn y Riksdag.[2]
Gyrfa academaidd a gwleidyddol
golyguDaeth Kjellén yn athro gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Göteborg wedi iddo ennill ei ddoethuriaeth o Uppsala yn 1891. Dechreuodd addysgu daearyddiaeth hefyd yn 1893, a chafodd ei benodi'n broffesor gwyddor gwleidyddiaeth ac ystadegaeth yn Göteborg yn 1901.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, bu Kjellén yn pryderu am ymlediaeth diriogaethol Ymerodraeth Rwsia a dirywiad y grymoedd Ewropeaidd eraill. Dan ddylanwad syniadaeth yr athronydd Friedrich Nietzsche a'r economegydd a chymdeithasegydd Werner Sombart, rhagdybiodd Kjellén y byddai dyletswydd, trefn, ac uniondeb yn disodli hen werthoedd rhyddid, cydraddoldeb, a brawdoliaeth.[2]
Symudodd ei waith i'w hen brifysgol yn Uppsala yn 1916 a daliodd y broffesoriaeth gwyddor gwleidyddiaeth yno hyd ddiwedd ei oes. Wedi'r rhyfel, dychwelodd at ei ddamcaniaethu systematig, gan lunio egwyddorion cyfundrefn organig o wyddor gwleidyddiaeth yn ei lyfrau Staten som lifsform (1916), Schweden (1917), a Grundriss zu einem System der Politik (1920).
Bu farw yn Uppsala ar 14 Tachwedd 1922 yn 58 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Rudolf Kjellén. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Gorffennaf 2019.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) "Kjellén, Rudolf" yn International Encyclopedia of the Social Sciences (Thomson Gale, 2008). Adalwyd ar 11 Gorffennaf 2019.