Daearwleidyddiaeth
Dadansoddiad o ddylanwadau daearyddiaeth ar gysylltiadau rhyngwladol a gwleidyddiaeth fyd-eang yw daearwleidyddiaeth. Rhoddir sylw i leoliad, yr amgylchedd ac hinsawdd, tirwedd a thirffurfiau, priddeg, adnoddau naturiol, a daearyddiaeth leol, a'r effaith sydd gan y rheiny ar gysylltiadau a gwrthdaro rhwng gwladwriaethau a gweithredyddion eraill. Ers ail hanner yr 20g, mae'r maes wedi ymwneud yn fwy ag agweddau o ddaearyddiaeth ddynol, er enghraifft demograffeg, cludiant a chyfathrebu.
Y gwyddonydd gwleidyddol o Sweden Rudolf Kjellén oedd y cyntaf i ddefnyddio'r enw, ym 1916, a chafodd y ddamcaniaeth ei datblygu gan y daearyddwr Almaenig Karl Haushofer. Ymledodd trwy Ewrop yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, yn enwedig Canolbarth Ewrop, a daeth i sylw ysgolheigion mewn gwledydd eraill yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Defnyddiwyd syniadau daearwleidyddol i gyfiawnhau ymlediaeth drefedigaethol, gan gynnwys Tynged Amlwg yn yr Unol Daleithiau a Lebensraum yn yr Almaen Natsïaidd. Adeiladodd y maes ar draddodiad gwleidyddol Ewrop y gellir ei olhrain i'r Henfyd, pan ysgrifennai'r hen Roegiaid ar bwysigrwydd tir âr a mynediad i'r môr, yn ogystal ag athronwyr, hanesyddion a llenorion yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g.[1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Geopolitics. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Mawrth 2018.