Zeitschrift für celtische Philologie

Cyfnodolyn astudiaethau Celtaidd yw'r Zeitschrift für celtische Philologie (Almaeneg, yn golygu Cylchgrawn ieitheg Geltaidd), yr hynaf o'i fath yn y byd. Almaeneg a Saesneg yw prif gyfryngau'r erthyglau; yn achlysurol ceir erthyglau mewn Ffrangeg, Sbaeneg ac Eidaleg yn ogystal.

Zeitschrift für celtische Philologie
Enghraifft o:Cyfnodolyn academaidd Edit this on Wikidata
GolygyddStefan Zimmer Edit this on Wikidata
CyhoeddwrPrifysgol Bonn Edit this on Wikidata
IaithFfrangeg, Sbaeneg, Almaeneg, Saesneg, ieithoedd lluosog Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1897 Edit this on Wikidata
Prif bwncAstudiaethau Celtaidd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.zcp.uni-bonn.de, http://www.degruyter.com/view/j/zcph Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sefydlwyd y Zeitschrift für celtische Philologie yn yr Almaen gan Kuno Meyer a Ludwig Christian Stern yn 1896. Am gyfnod fe'i ystyrid y pwysicaf o'r cyfnodolion astudiaethau Celtaidd ac mae ganddo le blaenllaw o hyd, yn enwedig ym maes ieitheg Geltaidd. O'r cychwyn mae pwyslais y cylchgrawn ar yr Hen Wyddeleg a'i llenyddiaeth a Chelteg y Cyfandir, ond ceir erthyglau ar yr iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth a phynciau eraill hefyd. Mae nifer o ysgolheigion enwog wedi cyfrannu dros y blynyddoedd yn cynnwys rhai Cymry: cyhoeddwyd erthygl arloesol ar y gynghanedd gan John Morris-Jones ynddo yn 1913.

Rhedodd y gyfres gyntaf o 1896 hyd 1943. Dechreuodd yr ail gyfres yn 1954. Fe'i cyhoeddir erbyn heddiw gan Brifysgol Bonn.

Golygyddion

golygu

Mae'r rhestr o ysgolheigion a fu'n olygwyr y cylchgrawn yn cynnwys:

Y golygyddion presennol[1] (2010) yw

Cyfeiriadau

golygu
  1. "ZCP". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-05. Cyrchwyd 2010-03-29.

Dolenni allanol

golygu