Russell Howard
Mae Russell Joseph Howard[1] (ganed 23 Mawrth 1980)[2] yn gomedïwr, cyflwynydd teledu a radio, ac actor o Loegr. Fe'i adnabyddir am ei ymddangosiadau ar y rhaglen banel bynciol Mock the Week, ac am ei raglen deledu Russell Howard's Good News. Yn ôl Howard, mae'r comedïwyr Lee Evans, Richard Pryor a Frank Skinner wedi dylanwadu ar ei waith.[3]
Russell Howard | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mawrth 1980 Bryste |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, sgriptiwr, digrifwr stand-yp, cyflwynydd teledu, actor teledu |
Gwefan | http://www.russell-howard.co.uk/ |
Bywyd
golyguGanwyd Howard ym Mryste yn fab i Dave a Ninette Howard. Mae ei chwaer a brawd iau, o'r enwau Kerry a Daniel, yn efeilliaid.[4] Mynychodd Ysgol Perins a Choleg Alton yn Hampshire cyn mynd yn ei flaen i astudio economeg ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste.[5] Mae Howard yn byw gyda'i gariad Cerys sy'n feddyg. Maent yn byw yn Leamington Spa, Swydd Warwick gyda'u ci o'r enw Archie.[6][7] Mae Howard yn cefnogi Clwb Pêl-droed Lerpŵl a chwaraeodd dros Clwb Pêl-droed Basingstoke Town cyn dod yn gomedïwr.[8]
Gyrfa
golyguTeledu a radio
golyguRhwng 2006 a 2010, yr oedd Howard yn banelydd rheolaidd ar Mock the Week ar BBC Two. Rhwng 2006 a 2008 yr oedd hefyd yn gyflwynydd ar y rhaglen radio wythnosol The Russell Howard Show ar BBC Radio 6 Music.[9][10] Ers 2009, y mae wedi bod yn cyflwyno'r gyfres gomedi Russell Howard's Good News, yn gyntaf ar BBC Three, ac wedyn ar BBC Two.[11][12] Pleidleisiwyd y rhaglen fel y Rhaglen BBC Three Orau Erioed ym mis Chwefror 2013.[13] Ym mis Rhagfyr 2015, gwnaeth Howard ei ddebut actio yn A Gert Lush Christmas ar BBC Two, rhaglen yr oedd hefyd yn cyd-ysgriennu. Mae Howard hefyd wrthi ar hyn o bryd yn cyflwyno ail gyfres Russell Howard's Stand Up Central ar Comedy Central. Bydd hefyd yn cyflwyno'r gyfres o raglenni dogfen teithio gyda'i fam, Travels With My Mum In The US, ar yr un sianel.[14]
Comedi byw
golyguRoedd Howard ar daith yn 2007 gyda'i sioe Adventures a ryddhawyd ar DVD o dan y teitl Russell Howard Live.[15] Dechreuoedd ar daith gyda'i ail sioe Dingledodies yn 2008[16], cyn dychweld gyda thrydedd sioe yn 2009 o'r enw Big Rooms and Belly Laughs.[17] Roedd un arall yn 2011 o'r enw Right Here Right Now, ac yn 2014 aeth ar daith eto gyda'i sioe Wonderbox.[18] Bydd yn dychwelyd i'r llwyfan yn 2017 gyda'i sioe Round The World, taith a fydd yn ymweld â'r Deyrnas Unedig, Iwerddon, Ewrop, Awstralia, Seland Newydd a'r Unol Daleithiau.[19]
Ymddangosiadau teledu a radio
golyguTeledu
golygu- Shaun of the Dead – (2004) - Zombie (heb gredyd)
- Mock the Week – BBC Two (2006–2010) - panelydd
- Never Mind the Buzzcocks – BBC Two (2006, 2007) - panelydd; (2013) - cyflwynydd gwadd
- Rob Brydon's Annually Retentive – BBC Three (2007)
- Would I Lie to You? – BBC One (2007) - panelydd
- Live at the Apollo – BBC One (2007, 2009)
- Law of the Playground – Channel 4 (2008)
- The Secret Policeman's Ball 2008 – Channel 4 (2008)
- 8 Out of 10 Cats – Channel 4 (2008) - panelydd
- Russell Howard's Good News – BBC Three/Two (2009–presennol) - cyflwynydd
- The Graham Norton Show – BBC One (2010)
- Conan – TBS (2011)
- Children in Need 2011 – BBC One (2011)
- Jon Richardson: A Little Bit OCD – Channel 4 (2012)
- The Jonathan Ross Show – ITV (2012, 2013)
- The Big Fat Quiz of the Year – Channel 4 (2012) - panelydd
- Red Nose Day 2013 – BBC One (2013)
- A League of Their Own – Sky 1 (2014) - panelydd
- Gadget Man – Channel 4 (2014)
- Russell Howard's Stand Up Central – Comedy Central (2015-presennol) - cyflwynydd
- Alan Davies: As Yet Untitled – Dave (2015) (Cyfres 3, Pennod 4)
- A Gert Lush Christmas – BBC Two (2015) - Dan Colman (hefyd yn gyd-ysgrifennwr)
- Room 101 - BBC One (2016) - gwestai/panelydd
- Travels With My Mum In The US - Comedy Central (2016)
Radio
golygu- The Milk Run – BBC Radio 1 (2004)
- Political Animal – BBC Radio 4 (2004)
- Banter – BBC Radio 4 (2005)
- The Russell Howard Show – BBC Radio 6 Music (2006–2008)
DVDau comedi ar ei sefyll
golyguTeitl | Dyddiad rhyddhau | Nodiadau |
---|---|---|
Live | 17 Tachwedd 2008 | Yn fyw yn Theatr y Bloomsbury, Llundain |
Live 2 – Dingledodies | 9 Tachwedd 2009 | Yn fyw yn y Dome, Brighton |
Right Here Right Now | 14 Tachwedd 2011 | Yn fyw yn yr Hammersmith Apollo, Llundain |
Wonderbox | 17 Tachwedd 2014 | Yn fyw yn yr Hippodrome, Bryste |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Russell Howard". IMDb. Cyrchwyd 30 Ionawr 2016.
- ↑ "Russell Howard". Chortle. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2011.
- ↑ "Favourite Comedians – Russell Howard's Good News – BBC Three". BBC. 18 Tachwedd 2009.
- ↑ "Relative Values: Russell Howard and his mother, Ninette". The Times. UK. 18 Ionawr 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-11. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2009. Unknown parameter
|subscription=
ignored (help) - ↑ Wilson, Benji (14 Ebrill 2012). "Q & A: Comedian Russell Howard". Daily Mail.
- ↑ Graham, Alison (11 Ebrill 2012). "Russell Howard: the risque comedian families love". Radio Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-05. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2012.
- ↑ Jones, Ross (23 Ebrill 2013). "Russell Howard interview: 'Twitter isn't useful to my soul'". The Telegraph.
- ↑ English, Paul (23 Hydref 2010). "Comedian Russell Howard on reading newspapers and watching TV for a living". Daily Record. Cyrchwyd 5 Mai 2012.
- ↑ "The Russell Howard Show". BBC 6 Music. Cyrchwyd 30 Ionawr 2016.
- ↑ "Russell Howard presents new show for 6 Music" – BBC Press Release, 2 Tachwedd 2006
- ↑ "Russell Howard". Sport Relief. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Chwefror 2010. Cyrchwyd 17 Hydref 2015.
- ↑ "Good News For Russell". Chortle. 29 Awst 2009. Cyrchwyd 30 Ionawr 2016.
- ↑ Taylor, Frances (9 Chwefror 2013). "'Russell Howard's Good News' voted BBC Three's best ever show". Digital Spy. Cyrchwyd 11 Mehefin 2016.
- ↑ http://www.radiotimes.com/news/2016-05-23/russell-howard-on-good-news-boaty-mcboatface-and-engaging-young-people-in-politics
- ↑ "Russell Howard Live (2008)". Internet Movie Database. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2009.
- ↑ Nodyn:Cite DVD notes
- ↑ "Russell Howard event listings". IKnowWhereItsAt.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Rhagfyr 2009. Cyrchwyd 17 Hydref 2015.
- ↑ Everett, Lucinda (23 Ebrill 2013). "Russell Howard announces 2014 world stand-up tour, Wonderbox". The Telegraph. Cyrchwyd 1 Chwefror 2016.
- ↑ Lewis, Roz. "Russell Howard: 'Ryanair would charge you for sneezing if they could'". Telegraph. Telegraph. Cyrchwyd 23 Ionawr 2016.