Ffostrasol

pentref yng Ngheredigion

Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Ffostrasol ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Mae'n gorwedd ar yr A486 rhwng Synod Inn a Llandysul, ac mae'n ffurfio rhan o blwyf Llangynllo ac ardal Cyngor Cymuned Troed-yr-Aur.

Ffostrasol
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.103°N 4.377°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Mae'r pentref yn gorwedd ar groesffordd wledig sy'n ei gysylltu â phentref Plwmp i'r gogledd, Synod Inn i'r gogledd-ddwyrain, Castell Newydd Emlyn i'r de-orllewin, a Llandysul i'r de-ddwyrain.

Y pentrefi agosaf yw Capel Cynon, tua 2 filltir i'r gogledd ar yr A486 a Bwlchygroes, tua hanner milltir i'r de. Am flynyddoedd lawer dyma gartref Gŵyl Werin y Cnapan a oed yn un o wyliau gwerin cyntaf a mwyaf llwyddiannus Cymru.

Mae gan y pentref Glwb Pêl Droed sydd yn chwarae ar gae Troedyrhiw yng Nghyngrair Ceredigion ac mae gan Ffostrasol hefyd dîm Talwrn y Beirdd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Cyfeiriadau golygu