Sŵn (cylchgrawn)

cylchgrawn gerddorol Gymraeg o’r 1970au

Roedd Sŵn yn gylchgrawn / papur newydd am gerddoriaeth Cymraeg. Cyhoeddwyd o leiaf 3 rhifyn yn 1972.

Clawr Sŵn, Rhif 2
Clawr Sŵn, Rhif 2

Roedd y papur yn costio 12 ceiniog, yn 16 tudalen maint tabloid, mewn dau liw ac argraffwyd gan wasg Y Lolfa. Roedd y dyluniad yn nodweddiadol o steil bywiog Y Lolfa ar lawer o bosteri a chloriau'r mudiad protest Cymraeg y 60au hwyr a’r 70au cynnar.

Mae erthyglau’r cylchgrawn yn adlewyrchu gwleidyddiaeth radical y cyfnod a hefyd y symudiad mewn cerddoriaeth Gymraeg bryd hynny – oddi wrth ganeuon protest gwerin acwstig – tuag at roc trydanol. Ar y clawr y ddau rifyn cyntaf mae cartŵn o hipi blewog gyda bathodyn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Mae’r cylchgrawn hefyd yn cynnwys nifer da o hysbysebion a dylai wedi mynd ymhell tuag at dalu costau cynhyrchu Sŵn.

Sefydlwyd Sŵn gan Dafydd Meirion ac Alun 'Sbardun' Huws. Roedd Sbardun wedi bod yn aelod o’r band gwerin Y Tebot Piws. Aeth Dafydd Meirion ymlaen i sefydlu Cyhoeddiadau Mei a gynhyrchodd nifer fawr o lyfrau, chylchgronau a chomics Cymraeg yn yr 1980au.

Rhifynnau golygu

Rhifyn 1: Ebrill/Mai 1972 – Yn cynnwys ffoto Heather Jones ar y blaen. Tu fewn mae adolygiadau o 21 record gyntaf label Sain a llun o Y Blew, sef y band roc Cymraeg cyntaf erioed (1967). Mae erthygl tudalen lawn am ddisco symudol DJ Mici Plwm a cherddi gan y Geraint Jarman ifanc. Fel yn y rhifynnau canlynol mae yna erthyglau am eisiau datblygu sîn Cymraeg ac yn cwyno am y diffyg sylw teilwng i fandiau Cymraeg ar y teledu a’r radio. (Ni sefydlwyd S4C a Radio Cymru tan yr 80au yn dilyn blynyddoedd o brotestiadau ac ymgyrchoedd).

Rhifyn 2: Mehefin/Gorffennaf 1972 – Ar y clawr mae llun mawr o driawd Y Mwg Drwg o Fetws y Coed. Mae hysbyseb ar y tu mewn yn cyhoeddi bod y band yn addo “Noson o ddawnsio gwyllt i fiwsig trydanol uchel gan grŵp Pop Cymraeg mwyaf cyffrous Cymru”. Ni chlywyd sôn am Y Mwg Drwg byth eto.

Rhifyn 3: Awst/Medi 1972 – Yn cynnwys clawr gwyrdd llachar a gyda ffoto y grŵp gwerin protest Y Nhw, cyflwynydd Radio Hywel Gwynfryn a sôn am Yr Atgyfodiad band Cristnogol newydd ei ffurfio gan Arfon Wyn. Y tu mewn mae erthygl am Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog. Mae hefyd erthygl am Y Cymylau, triawd gwerin fenywaidd acwstig o Rydaman oedd yn cynnwys Pat Morgan, hanner y grŵp Datblygu yn ddiweddarach. Yn anffodus mae’r erthygl yn pasio sylwadau hynod rywiaethol am y merched.

Ffynhonnell golygu

http://link2wales.co.uk/2023/latest-news/profile-swn-magazine/

 
Clawr Rhifyn cyntaf Sŵn, Ebrill/Mai 1972
 
Clawr Rhifyn 3 Sŵn, Awst/Medi 1972