Arfon Wyn
Canwr a chyfansoddwr o Sir Fôn ydy Arfon Wyn (ganwyd Awst 1952) sy'n adnabyddus am ffurfio a chanu gyda'r band Y Moniars ac ei waith yn dysgu plant mewn ysgolion anghenion arbennig.
Arfon Wyn | |
---|---|
Ganwyd | Arfon Wyn Humphreys 26 Awst 1952 Llanfair Pwllgwyngyll |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguMagwyd Arfon yng Ngwalchmai tan yn 5 oed ac yna yn nhŷ capel yn Llanfair Pwllgwyngyll, Ynys Môn. Mynychodd yr ysgol gynradd leol yno cyn symud i Ysgol David Hughes, Porthaethwy. Bu yng Ngholeg y Normal, Bangor yn astudio Addysg gan ennill gradd anrhydedd Dosbarth Cyntaf am ei astudiaeth o gerddoriaeth i blant a chanddynt anabledd dysgu. Bu hefyd yng Ngholeg Prifysgol Bangor Bala Bangor yn astudio diwinyddiaeth am dair blynedd. Yna yn 1976 aeth i weithio i Ysgol Arbennig Hafon Lôn, Y Ffor.
Cerddoriaeth
golyguFfurfiodd grŵp o'r enw The Resurrection ar ddiwedd ei amser yn yr ysgol. Grŵp oedd yn canu caneuon "prog rock" yn Saesneg. Daeth y band i ben gyda dyddiau ysgol. Tra ym Mhrifysgol Bangor, ffurfiodd Yr Atgyfodiad, band cristnogol oedd yn cyfuno caneuon Roc eu naws gydag elfennau o neges Cristnogol yn y geiriau. Hwn oedd un o'r grwpiau roc trwm cyntaf yn y Gymraeg. Bu iddynt berfformio llawer ar y teledu ac yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol yn y 1970au. Roedd Gwyndaf a Dafydd Roberts yn aelodau o'r Atgyfodiad ac aethant ymlaen i ffurfio y grwp gwerin Ar Log maes o law. Bu iddynt ryddhau un EP vinyl gyda cwmni Sain. Canmolwyd yr EP gan Gruff Rhys yn ei gasgliad o ganeuon ar y CD "Welsh Rarebit".
Wedi i'r Atgyfodiad ddod i ben fe ffurfwyd y grŵp gwerin roc Pererin gyda Charlie Goodall, Einion Williams ac Aneurin Owen. Roedd y band yn boblogaidd yn y sîn roc geltaidd ar ddiwedd y 1970au, gan berfformio yn Llydaw ac Iwerddon. Roeddynt yn perfformio yn aml yn yr Ŵyl Bangeltaidd yn Iwerddon ac mewn gwyliau gwerin arall. Ychydig o sylw gafodd Pererin yng Nghymru ar y pryd, ond ar ddiwedd y 1990au cafodd Haul ar yr Eira, sef albwm gyntaf Pererin, sylw blaenllaw yn y llyfr 3001 Record Collector Dreams#' gan Hans Pokora.[1] Bu'n rhaid i'r albwm gael ei ail rhyddhau o dan label Eidalaidd 'AKARA' i ateb angen byd eang am y gwaith. Ail rhyddhawyd tair albwm arall gan Pererin hefyd, sef Teithgan, Tirion Dir ac Yng Ngolau Dydd[2] yn dilyn llwyddiant Haul ar yr Eira,[3] y tro yma ar label gwerin Sbaenaidd o'r enw 'Guerssen Records'.
Daeth Pererin i ben ddiwedd yr wythdegau, a bu bwlch byr tan iddo ffurfio ei fand nesaf, Y Moniars. Y bwriad oedd creu band tebyg i'r The Pogues ond yn Gymraeg.[4] Roedd blas mwy bywiog ar y gerddoriaeth y tro hwn, a buan yr enillodd y Moniars sylw fel un o fandiau byw mwyaf prysur Cymru. Hyd yma, maent wedi rhyddhau pum casgliad sef: Fe Godwn Eto' (1992), I'r Carnifal (1993), Y Gorau o Ddau Fyd (1995), Hydnoed Nain yn Dawnsio (1996), Methu Cadw ni Lawr (1998), Cae o Yd (2001), Harbwr Diogel (2002), Edrych ymlaen at Edrych yn Ôl (2005), Cyn i'r Haul fynd Lawr (2011).
Bu'r Moniars o'r cychwyn yn fand a roddodd gyfle i sawl cerddor ifanc, ac roedd Harbwr Diogel yn cynnwys caneuon gyda'r gantores Elin Fflur - bu Arfon Wyn yn canu gyda'i mam, Nest Llywelyn, flynyddoedd ynghynt yn y band Pererin. Roedd prif gân yr albym Harbwr Diogel eisoes wedi ennill Cân i Gymru, gwobr yr oedd Arfon Wyn wedi ei hennill yn barod gyda'r gân "Cae o Yd". Mae eu halbym ddiweddaraf Edrych Ymlaen at Edrych yn Ôl (2005) yn cynnwys llais y gantores Sara Mai o Langefni, a llu o gerddorion ifanc eraill.
Llyfryddiaeth
golygu- Dewch i'r Wledd (Curiad, 1993)
- Pwy Wnaeth y Sêr Uwchben? (Curiad, 1992)
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 3001 Record Collector Dreams Gwefan Amazon. 31-01-2010
- ↑ Bywgraffiad Pererin. Gwefan Prog Archives.com 31-01-2010
- ↑ Pedair Albym Pererin wedi eu ail Rhyddhau Gwefan Forcedexposure.com 31-01-2010
- ↑ Arfon Wyn - Athro, Canwr a Chyfansoddwr BBC Lleol. 31-01-2010