Sacha Baron Cohen
Actor, digrifwr ac ysgrifennwr Seisnig ydy Sacha Noam Baron Cohen (Hebraeg: סשה נועם ברון כהן, ganed 13 Hydref, 1971). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gymeriadau comedi Ali G (ffug berson ifanc o un o faestrefi Staines), Borat Sagdiyev (newyddiadurwr gwrth-semitaidd a rhywiaethol), a Brüno (newyddiadurwr ffasiwn hoyw camp dros ben llestri Awstriaidd). Graddiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt.[1]
Sacha Baron Cohen | |
---|---|
Ffugenw | Ali G. |
Ganwyd | 13 Hydref 1971 Hammersmith |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor ffilm, digrifwr, cynhyrchydd ffilm, actor llais, sgriptiwr, cynhyrchydd teledu, actor, actor teledu, awdur teledu, sgriptiwr ffilm, cyfarwyddwr teledu |
Adnabyddus am | Da Ali G Show, Borat |
Tad | Gerry Baron Cohen |
Mam | Daniella Naomi Cohen |
Priod | Isla Fisher |
Perthnasau | Simon Baron-Cohen, Simon Baron-Cohen |
Gwobr/au | Gwobr Golden Globe am Actor Gorau - Ffilm Sioe-gerdd neu Gomedi, MTV Movie Award for Best Comedic Performance, Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Los Angeles ar gyfer yr Actor Gorau, San Francisco Film Critics Circle Award for Best Actor, Toronto Film Critics Association Award for Best Actor, Gwobr MTV Movie am y Gusan Orau, Golden Globes, British Academy Television Awards, MTV Comedic Genius Award |
Yn ei weithiau, cynhalia gyfweliadau â ffigurau parchus wrth chwarae rhan un o'i gymeriadau er mwyn gwneud sbort ohonynt. Yn amlach na pheidio, ni sylweddola'r bobl sy'n cael eu cyfweld nad yw Cohen o ddifri. Cydnabuwyd llawer o waith Sacha Baron Cohen gydag enwebiadau Emmy, enwebiad am Oscar am yr Addasiad Orau o Ffilm, Gwobr BAFTA, a Golden Globe am yr Actor Gorau am ei waith yn y ffilm Borat: Cultural Learnings of America for Make Benefit Glorious Nation of Kazakhstan.
Ar ôl i'r ffilm Borat gael ei rhyddhau, dywedodd Cohen y byddai'n ymddeol ar ôl Borat ac Ali G am fod y cyhoedd wedi dod yn rhy gyfarwydd gyda'i gymeriadau. Yn yr un modd, dywedodd yr un peth ar ôl i'r ffilm Brüno gael ei rhyddhau, gan ddatgan y byddai'r cymeriad yn ymddeol.
Ffilmograffiaeth
golyguBlwyddyn | Ffilm | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
1995 | Jack and Jeremy's Police 4 | Person a ddienyddiwyd | Rhaglen arbennig ar gyfer y teledu |
1995 | Pump TV | Cyflwynydd teledu, sianel loeren leol y DU | Rhaglen arbennig ar gyfer y teledu |
1996 | Punch | di-enw | ffilm fer |
1998 | Live from the Lighthouse | Ali G | Rhaglen arbennig ar gyfer y teledu |
1998-1999 | The 11 O'Clock Show | Ali G | Cyfres deledu |
2000 | The Jolly Boys' Last Stand | Vinnie | |
Da Ali G Show (DU) | Ali G, Borat Sagdiyev, Brüno | Cyfres deledu | |
2002 | Ali G Indahouse | Ali G, Borat Sagdiyev | |
2003 | Spyz | James Bond (Ali G) | ffilm fer |
2003-2004 | Da Ali G Show (UDA) | Ali G, Borat Sagdiyev, Brüno | TV series |
2005 | Curb Your Enthusiasm | Larry's Guide #2 (guest star) | Season 5, episode 10 "The End" |
Madagascar | King Julien | Llais | |
2006 | Talladega Nights: The Ballad of Ricky Bobby | Jean Girard | |
Night of Too Many Stars: An Overbooked Event for Autism Education | Borat Sagdiyev | Rhaglen arbennig ar gyfer y teledu | |
Borat: Cultural Learnings of America for Make Benefit Glorious Nation of Kazakhstan | Borat Sagdiyev | ||
2007 | Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street | Signor Adolfo Pirelli | |
2008 | Madagascar: Escape 2 Africa | King Julien | Llais |
2009 | Brüno | Brüno | |
2012 | Madagascar 3: Europe's Most Wanted | King Julien | Llais |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Christ's College - Alumni - Sacha Baron Cohen Archifwyd 2011-10-13 yn y Peiriant Wayback. © 2008 Christ's College