Saint Barthélemy

(Ailgyfeiriad o Saint-Barthélemy)

Ynys o darddiad folcanig ym Môr y Caribî sy'n diriogaeth dramor Ffrainc yw Saint Barthélemy neu St. Barts (Ffrangeg: Collectivité territoriale de Saint-Barthélemy). Fe'i lleolir yn yr Antilles Lleiaf, i'r de-ddwyrain o ynys Saint Martin ac i'r gogledd o Saint Kitts. Mae'r ynys yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid.

Saint Barthélemy
Mathoverseas collectivity of France Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlBartholomew Columbus Edit this on Wikidata
PrifddinasGustavia Edit this on Wikidata
Poblogaeth10,124 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 15 Gorffennaf 2007 Edit this on Wikidata
AnthemLa Marseillaise Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffrangeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAntilles Leiaf, Ynysoedd Leeward, Y Caribî Edit this on Wikidata
SirFfrainc Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd24 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr y Caribî Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau17.897728°N 62.834244°W Edit this on Wikidata
FR-BL Edit this on Wikidata
Map
ArianEwro Edit this on Wikidata

Darganfuwyd Saint Barthélemy ym 1493 gan Christopher Columbus a enwodd yr ynys ar ôl ei frawd Bartolomeo.[1] Ymsefydlodd y Ffrancod ar yr ynys ym 1648 ond fe'i gwerthwyd i Sweden ym 1784. Prynwyd yr ynys eto gan Ffrainc ym 1878. Gweinyddwyd yr ynys fel rhan o Guadeloupe tan 2007 pan ddaeth hi'n diriogaeth gwahanol.[1]

Gustavia, prifddinas yr ynys

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 CIA (2012) Saint Barthelemy Archifwyd 2012-10-29 yn y Peiriant Wayback, CIA World Factbook. Adalwyd ar 2 Gorffennaf 2012.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am y Caribî. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato