Córdoba
Dinas hynafol yng nghymuned ymreolaethol Andalucía, de Sbaen, yw Córdoba (neu Cordova). Saif ar lannau Afon Guadalquivir.
Math | bwrdeistref Sbaen |
---|---|
Prifddinas | Córdoba |
Poblogaeth | 322,811 |
Pennaeth llywodraeth | José María Bellido |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Bethlehem, Nürnberg, Adana, Bukhara, Jerez de la Frontera, Old Havana, São Paulo, Damascus, Curitiba, Manceinion, Bourg-en-Bresse, Saint-Denis, La Louvière, Nîmes, Fès, Smara, Santiago de Compostela, Lahore, Kairouan, Córdoba, Córdoba |
Nawddsant | Raphael, Acisclus, Victoria, Acisclus and Victoria |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Q100593640, Comarca de Córdoba, Red de Juderías de España |
Sir | Talaith Córdoba |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 1,253 km² |
Uwch y môr | 120 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Guadalquivir, Arroyo de Cantarranas |
Yn ffinio gyda | La Victoria, La Carlota, La Rambla, Guadalcázar, Almodóvar del Río, Villaviciosa de Córdoba, Obejo, Adamuz, Villafranca de Córdoba, El Carpio, Bujalance, Cañete de las Torres, Castro del Río, Espejo, Montemayor, Fernán Núñez |
Cyfesurynnau | 37.89°N 4.78°W |
Cod post | 14000–14999 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Córdoba |
Pennaeth y Llywodraeth | José María Bellido |
- Am y ddinas o'r un enw yn yr Ariannin, gweler Córdoba; am y dalaith yn yr Ariannin, gweler Talaith Córdoba (Ariannin)
Hanes
golyguCafodd ei gwneud yn brifddinas y Sbaen Mwraidd yn y flwyddyn 756 ac erbyn y 10g roedd wedi tyfu i fod y ddinas fwyaf yn Ewrop ac yn ganolfan ddiwylliant unigryw. Mosg oedd yr eglwys gadeiriol fawreddog sy'n sefyll yng nghanol y ddinas heddiw yn wreiddiol.
Mae ei diwydiannau traddodiadol yn cynnwys arianwaith a brodwaith. Roedd hefyd yn enwog am ledr, gymaint felly bod gair "cordwal" (yn y chwedlau brodorol Cymreig er enghraifft) yn cyfeirio at fath o ledr da.[1]
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Alcázar de los Reyes Cristianos
- Eglwys Gadeiriol (Mosg Fawr)
- Mausoleum
- Pont San Rafael
- Tŵr Calahorra
- Tŵr Donceles
Enwogion
golygu- Marcus Annaeus Lucanus (39-65), bardd
- Averroes (1126-1198), athronydd
- Paco Peña (g. 1942), cerddor
- Joaquín Cortés (g. 1969), dawnswr
- ↑ "Geiriadur Prifysgol Cymru". geiriadur.ac.uk. Cyrchwyd 2024-05-27.