Sachalin
(Ailgyfeiriwyd o Sakhalin)
Ynys ger arfordir dwyreiniol Rwsia yw Sachalin, hefyd Sakhalin (Rwseg: Сахали́н). Saif rhwng Môr Ochotsk a Môr Japan. Hi yw'r fwyaf o ynysoedd Rwsia. Gydag Ynysoedd Kuril mae'n ffurfio Oblast Sakhalin, un o ranbarthau Rwsia.
Math | ynys, gweithrediaeth ![]() |
---|---|
Prifddinas | Yuzhno-Sakhalinsk ![]() |
Poblogaeth | 673,100 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+11:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Oblast Sakhalin, Karafuto Prefecture, Yuzhno-Sakhalinsk Oblast ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 72,492 km² ![]() |
Uwch y môr | 1,609 metr ![]() |
Gerllaw | Môr Japan, North Pacific Ocean ![]() |
Cyfesurynnau | 50.5°N 143°E ![]() |
Hyd | 950 cilometr ![]() |
![]() | |
Mae arwynebedd yr ynys yn 76,400 km², a'r boblogaeth tua 673,000. Y ddinas fwyaf a phrifddinas yr oblast yw Yuzhno-Sakhalinsk, yn ne yr ynys. Gwahenir yr ynys oddi wrth dir mawr Rwsia gan Gulfor Tatar, sy'n 7.3 km yn ei fan gulaf, ac yn rhewi yn y gaeaf, tra mae Culfor La Pérouse yn ei gwahanu oddi wrth Hokkaido, yr agosaf o ynysoedd Japan.
Arferai'r ynys fod yn eiddo Tsieina, er i Japan geisio ei meddiannu hefyd. Meddiannodd Rwsia yr ynys o'r 18g ymlaen, ond parhaodd rhan o dde yr ynys ym meddiant Japan hyd 1875.