Dinas yn Awstria a phrifddinas talaith Salzburg yw Salzburg. Roedd y boblogaeth yn 2008 yn 147,159, sy'n ei gwneud yn bedwaredd dinas Awstria o ran poblogaeth. Mae'n fwyaf adnabyddus fel man geni Wolfgang Amadeus Mozart.

Salzburg
Mathdinas fawr, bwrdeistref yn Awstria, man gyda statws tref, dinas statudol yn Awstria, district of Austria Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôldiwydiant halen Edit this on Wikidata
Poblogaeth155,021 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethHarald Preuner Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iVilnius Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSalzburg Edit this on Wikidata
GwladBaner Awstria Awstria
Arwynebedd65.65 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr424 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Salzach, Alterbach, Saalach Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBerchtesgadener Land, Salzburg-Umgebung District Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.8°N 13.045°E Edit this on Wikidata
Cod post5020, 5023, 5026, 5061, 5071, 5081, 5082 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethHarald Preuner Edit this on Wikidata
Map
Mae'r erthygl yma yn ymdrin a dinas Salzburg. Am ystyron eraill, gweler Salzburg (gwahaniaethu)

Saif Salzburg ar afon Salzach yn ardal Flachgau, heb fod ymhell o'r ffîn a'r Almaen. Mae Abaty Benedictaidd Sant Pedr (Stift Sankt Peter) yn dyddio o 696. Hwn yw abaty hynaf Awstria, ac mae'n cynnwys llyfrgell hynaf y wlad. O ddiwedd yr 8g ymlaen, roedd yn ganolfan Archesgobaeth Salzburg. Ceir nifer fawr o adeiladau baroc yma, yn ei plith ye Eglwys Gadeiriol a chastell Hohensalzburg, ar fryn 120 m uwch y ddinas. Dynodwyd y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Daw nifer fawr o dwristiaid i Salzburg, gyda thŷ Mozart yn y Getreidegasse, sy'n awr yn amgueddfa, yn atyniad arbennig. Atyniad arall yw tŷ'r teulu Von Trapp, a anfarwolwyd yn y ffilm The Sound of Music.

Y prif dîm peldroed yw SV Austria Salzburg.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Abaty Nonnberg
  • Castell Hohensalzburg
  • Eglwys y Prifysgol
  • Palas Leopoldskron
  • Palas Mirabell
  • Salzburger Dom (eglwys gadeiriol)
  • Tŷ Mozart

Enwogion golygu