Herbert von Karajan
Arweinydd cerddorfa o Awstria oedd Herbert von Karajan (5 Ebrill 1908 – 16 Gorffennaf 1989). Mae'n cael ei ystyried fel un o brif arweinwyr yr 20g. Rhan o'r rheswm am hyn oedd y nifer fawr o recordiadau a wnaeth a'u hamlygrwydd yn ystod ei oes. Yn ôl un amcangyfrif ef oedd yr artist recordio cerddoriaeth glasurol a werthodd orau erioed, wedi gwerthu amcangyfrif o 200 miliwn o recordiau.[1]
Herbert von Karajan | |
---|---|
Ganwyd | Heribert Ritter von Karajan 5 Ebrill 1908 Salzburg |
Bu farw | 16 Gorffennaf 1989 Anif, Salzburg |
Label recordio | Deutsche Grammophon |
Dinasyddiaeth | Awstria |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arweinydd, cyfarwyddwr cerdd, cyfarwyddwr theatr, cyfarwyddwr ffilm |
Swydd | cyfarwyddwr cerdd, principal conductor, cyfarwyddwr cerdd, cyfarwyddwr cerdd |
Arddull | cerddoriaeth glasurol |
Plaid Wleidyddol | Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol |
Tad | Ernst von Karajan |
Mam | Martha von Karajan |
Priod | Elmy Holgerloef, Anita von Karajan, Eliette von Karajan |
Plant | Isabel Karajan, Arabel Karajan |
Gwobr/au | Dinesydd anrhydeddus Berlin, Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Medal Aur Cymdeithas y Royal Philharmonic, Uwch swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Gwobr Awstria am Gelf a Gwyddoniaeth, Ernst von Siemens Music Prize, Hans von Bülow Medal |
Gwefan | https://karajan.org/ |
llofnod | |
Cefndir
golyguGanwyd Heribert Ritter von Karajan yn Salzburg, Awstria-Hwngari, yn ail fab i'r uwch ymgynghorydd meddygol Ernst von Karajan a Marta (née Kosmač).[2][3] Roedd yn blentyn gyda doniau rhyfeddol wrth ganu'r piano. Rhwng 1916 a 1926, astudiodd yn y Mozarteum yn Salzburg gyda Franz Ledwinka (piano), Franz Zauer (cynghanedd), a Bernhard Paumgartner (cyfansoddi a cherddoriaeth siambr).[3] Cafodd ei annog i ganolbwyntio ar arwain gan Paumgartner, a ganfu ei addewid eithriadol yn hynny o beth. Ym 1926 graddiodd Karajan o'r conservatoire. Aeth i Academi Fienna i barhau ei addysg, gan astudio'r piano gyda Josef Hofmann ac arwain gydag Alexander Wunderer a Franz Schalk.[4]
Teulu
golyguYm mis Gorffennaf 1938 priododd y gantores operetta Elmy Holgerloef, cafodd y cwpl ysgariad ym 1942. Ar Hydref 22 yr un flwyddyn, priododd Anna Maria "Anita" Gütermann, aeres y diwydiant tecstilau Gütermann, cawsant ysgariad ym 1958. Yr un flwyddyn priododd am y trydydd tro ag Eliette Mouret, bu iddynt ddwy ferch.
Gyrfa
golyguGwnaeth Karajan ei ymddangosiad cyntaf fel arweinydd yn Salzburg ar 22 Ionawr 1929. Daeth y perfformiad â sylw Rheolwr Cyffredinol y Stadttheater yn Ulm, ac yn y pen draw arweiniodd at benodiad cyntaf Karajan fel Kapellmeister cynorthwyol y theatr.[2][3] Ei bennaeth yn Ulm oedd Otto Schulmann. Ar ôl i Schulmann gael ei orfodi i adael yr Almaen ym 1933 pan ddaeth yr Y Blaid Natsïaidd i rym, cafodd Karajan ei ddyrchafu i'w swydd fel prif Kapellmeister.
Llwyddiannau yn ystod cyfnod Natsïaeth
golyguYm mis Mawrth 1935, cafodd gyrfa Karajan hwb sylweddol pan ymunodd a'r Blaid Natsïaidd. Y flwyddyn honno, enwyd Karajan yn arweinydd cerddorfa ieuengaf yr Almaen ac roedd yn arweinydd gwadd ym Mrwsel, Stockholm, Amsterdam a dinasoedd Ewropeaidd eraill. Ar ben hynny, ym 1937, gwnaeth Karajan ei ymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Ffilharmonig Berlin ac Opera Talaith Berlin (a gyfarwyddodd o 1939 , yn ystod yr Ail Ryfel Byd) gyda Fidelio. Mwynhaodd lwyddiant rhyfeddol gyda Tristan und Isolde ac ym 1938. Wedi arwyddo cytundeb gyda Deutsche Grammophon y flwyddyn honno, gwnaeth Karajan y cyntaf o’i recordiadau niferus gan gyfarwyddo’r Staatskapelle Berlin yn agorawd Y Ffliwt Hud.[5] Fodd bynnag, pechodd Adolf Hitler pan wnaeth camgymeriad wrth arwain Die Meistersinger von Nürnberg mewn cyngerdd gala a gynhaliwyd gan Hitler er anrhydedd i frenin Iwgoslafia ym mis Mehefin 1939. Wrth arwain heb y sgôr, collodd Karajan ei le a stopiodd y cantorion yng nghanol y dryswch gan ddifetha'r perfformiad. Yn gandryll, dywedodd Hitler "Ni fydd Herr von Karajan byth yn arwain yn Bayreuth cyhyd ag y byddaf yn byw," ac felly y bu. Er ei fod yn ddigwyddiad cywilyddus iddo fel arweinydd, fe fu'n moddion i arbed ei yrfa ar ôl y rhyfel.
Blynyddoedd ar ôl y rhyfel
golyguYm 1946, rhoddodd Karajan ei gyngerdd cyntaf yn y cyfnod ar ôl y rhyfel, yn Fienna, gyda Cherddorfa Ffilharmonig Fienna, ond yn ddiweddarach gwaharddodd awdurdodau goresgyniad y Sofietiaid ef rhag arwain oherwydd ei gysylltiad â'r blaid Natsïaidd. Yn ystod haf y flwyddyn honno cymerodd ran yn ddienw yng Ngŵyl Salzburg. Y flwyddyn ganlynol codwyd y gwaharddiad a dechreuodd arwain eto. Ym 1948, daeth Karajan yn gyfarwyddwr artistig y Gesellschaft der Musikfreunde (Cymdeithas Cyfeillion Cerdd), Fienna. Bu hefyd yn arwain yn Theatr La Scala, Milan.[6]
Ei weithgaredd amlycaf ar yr adeg hon oedd recordio gyda'r Gerddorfa Philharmonia a oedd newydd ei ffurfio yn Llundain, gan helpu i'w wneud yn un o oreuon y byd.
Ym 1956, penodwyd Karajan yn brif arweinydd am oes ar Gerddorfa Ffilharmonig Berlin fel olynydd i Wilhelm Furtwängler.[7] Roedd yn gyfarwyddwr artistig Opera Talaith Fienna. Roedd Karajan yn cael ei gysylltu yn agos ag ymddangosiadau Cerddorfa Ffilharmonig Fienna yng Ngŵyl Salzburg, lle cychwynnodd Ŵyl y Pasg.
Karajan a'r cryno ddisg
golyguChwaraeodd Karajan ran bwysig yn natblygiad y fformat crynoddisg wreiddiol (tua 1980). Cefnogodd y dechnoleg recordio newydd hon ac ymddangosodd yn y gynhadledd i'r wasg gyntaf a gyhoeddodd y fformat. Ef a recordiodd y CD fasnachol gyntaf a'r gwaith a gafodd yr anrhydedd o gael ei recordio ar yr achlysur oedd y Symffoni Alpaidd gan Richard Strauss.
Marwolaeth
golyguYn ei flynyddoedd olaf, dioddefodd Karajan o broblemau'r galon a'r cefn. Ymddiswyddodd fel Prif Arweinydd cerddorfa Ffilharmonig Berlin ar 24 Ebrill 1989. Ei gyngerdd olaf oedd 7fed Symffoni Bruckner gyda Cherddorfa Ffilharmonig Fienna. Bu farw o drawiad ar y galon yn ei gartref yn Anif ar 16 Gorffennaf 1989 yn 81 mlwydd oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Lebrecht, Norman (2007). The Life and Death of Classical Music: Featuring the 100 Best and 20 Worst Recordings Ever Made. Knopf Doubleday. t. 137. ISBN 9780307487469.
- ↑ 2.0 2.1 "Herbert von Karajan – His Life". www.karajan.org. Cyrchwyd 2019-09-27.[dolen farw]
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Osborne, Richard, 1943- (2000). Herbert von Karajan : a life in music. Boston: Northeastern University Press. ISBN 1555534252. OCLC 42892262.
- ↑ "Herbert von Karajan | Biography & History". AllMusic. Cyrchwyd 2019-09-29.
- ↑ "Karajan, Herbert von | Grove Music". www.oxfordmusiconline.com. doi:10.1093/gmo/9781561592630.001.0001/omo-9781561592630-e-0000014696. Cyrchwyd 2019-09-29.
- ↑ Zignani, Alessandro (2008). Herbert von Karajan : il musico perpetuo (arg. 1af). Varese: Zecchini. ISBN 8887203679. OCLC 225996487.
- ↑ Philharmoniker, Berliner. "The era of Herbert von Karajan | Berliner Philharmoniker". www.berliner-philharmoniker.de. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-02. Cyrchwyd 2019-09-29.