Caerlwytgoed
Dinas fechan a phlwyf sifil yn Swydd Stafford, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Caerlwytgoed (Lladin Letocetum; Saesneg: Lichfield).[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Lichfield. Saif 25 km (14 milltir) i'r gogledd o Birmingham. Mae'n enwog am ei chadeirlan, ac mae'n bwysig fel canolfan eglwysig, er nad yw wedi datblygu fel canolfan ddiwydiannol.
![]() Wyneb gorllewinol cadeirlan Caerlwytgoed | |
Math | dinas, plwyf sifil ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Ardal Lichfield |
Poblogaeth | 33,816, 32,580 ![]() |
Gefeilldref/i | Limburg an der Lahn, Sainte-Foy-lès-Lyon ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Stafford (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 14.02 km² ![]() |
Uwch y môr | 81 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Longdon ![]() |
Cyfesurynnau | 52.6835°N 1.82653°W ![]() |
Cod SYG | E04008932 ![]() |
Cod OS | SK115097 ![]() |
![]() | |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 32,219.[2]
Hanes
golyguDaw enw Lichfield o'r Frythoneg *Leitocaiton, enw yn cynnwys elfennau cytras â'r geiriau Cymraeg cyfoes llwyd a coed. Benthyciwyd yr enw hwn gan y Rhufeiniaid fel y Lladin Letocetum, a ddatblygodd i elfen gyntaf yr enw modern. Ychwanegwyd yr elfen field mewn Saesneg Canol. Cyfeirir at y ddinas ym marddoniaeth Hen Gymraeg fel Caer Lwytgoed, yn adlewyrchu tarddiad yr enw (Williams 1945: 6).
Cedwir Llyfr Sant Chad, llawysgrif Ladin sy'n cynnwys y darn hynaf Cymraeg ysgrifenedig mewn llyfr sydd wedi goroesi, yng nghadeirlan Caerlwytgoed.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Amgueddfa Samuel Johnson
- Eglwys gadeiriol
- Palas yr esgob
- Theatr Garrick
- Tŷ Erasmus Darwin
Enwogion
golygu- Elias Ashmole (1617-1692), hanesydd a gwleidydd
- Samuel Johnson (1709-1784), awdur
- Richard Allinson (g. 1958), cyflwynwr radio
Gweler hefyd
golyguFfynonellau
golygu- Ifor Williams, Enwau lleoedd (Lerpwl: Gwasg y Brython, 1945).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 8 Medi 2020
- ↑ City Population; adalwyd 8 Medi 2020
Dinasoedd
Caerlwytgoed (Lichfield) ·
Stoke-on-Trent
Trefi
Biddulph ·
Burntwood ·
Burslem ·
Burton upon Trent ·
Cannock ·
Codsall ·
Cheadle ·
Eccleshall ·
Fazeley ·
Fenton ·
Hanley ·
Hednesford ·
Kidsgrove ·
Leek ·
Longton ·
Newcastle-under-Lyme ·
Penkridge ·
Rugeley ·
Stafford ·
Stoke-upon-Trent ·
Stone ·
Tamworth ·
Tunstall ·
Uttoxeter