Hester Lynch Salusbury
Awdures o Gymru oedd Hester Lynch Salusbury (16 Ionawr 1741 – 2 Mai 1821), a elwid yn Hester Thrale ar ôl ei phriodas gyntaf yn 1763, a Hester Lynch Piozzi ar ôl ei hail briodas yn 1784. Roedd yn gyfaill a gohebydd Samuel Johnson.
Hester Lynch Salusbury | |
---|---|
Portread o Hester Thrale a'i merch Hester gan Syr Joshua Reynolds | |
Ganwyd | 27 Ionawr 1741, 16 Ionawr 1741 Sir Gaernarfon |
Bu farw | 2 Mai 1821 o marwolaeth drwy gwymp Clifton, Bryste |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | noddwr y celfyddydau, perchennog salon, dyddiadurwr, llenor |
Tad | John Salusbury |
Mam | Hester Maria Cotton |
Priod | Henry Thrale, Gabriel Piozzi |
Plant | Hester Maria Elphinstone, Frances Thrale, Henry Salusbury Thrale, Anna Maria Thrale, Elizabeth Thrale, Susannah Arabella Thrale, Sophia Thrale, Penelope Thrale, Ralph Thrale, Frances Anna Thrale, Cecelia Margaretta Thrale, Hester Sophia Thrale |
Teulu a bywyd cynnar (1741–63)
golyguGaned Hester Lynch Salusbury ar 16 Ionawr 1741 yn Neuadd Bodfel, ger Pwllheli, Sir Gaernarfon, Cymru, yng nghyfnod Teyrnas Prydain Fawr, yn unig blentyn i John Salusbury (1707–62) a'i wraig Hester Maria, gynt Cotton (1707–73). Fel un o'r Salbriaid—yn ddisgynnydd i Gatrin o Ferain drwy linach ei mam a'i thad—roedd Hester yn ferch i deulu blaenllaw mewn cylchoedd cymdeithasol gogledd Cymru. Er iddynt feddu ar enw parchus, roedd llawer o'u heiddo wedi ei forgeisio, a wynebasant ddyledion yn aml.[1] Derbyniodd Hester addysg dda gan ei rhieni a'i modryb, gan gynnwys dysgu'r ieithoedd Ffrangeg ac Eidaleg yn rhugl. Ymsefydlasant o'r diwedd yn Offley Park, Swydd Hertford, ac yn 17 oed, er gwaethaf trafferthion ariannol ei theulu, cafodd Hester addysg breifat, gan gael ei thiwtora mewn athroniaeth, rhethreg, a Lladin gan y Dr Arthur Collier ac mewn llenyddiaeth Ffrangeg gan y Dr William Parker.[1] Trwy gylch hyddysg y Dr Collier, daeth Hester yn gyfarwydd â'r awdures Sarah Fielding[1] a'r gwleidydd a gramadegydd James Harris, a gefnogai'r Hester ifanc i ysgrifennu a chyfieithu.[2] Mae'n bosib yr oedd Hester yn fodel ar gyfer y ferch yn y paentiad The Lady's Last Stake (tua 1759) gan William Hogarth.[1]
Cyflwynwyd ymgeisydd am law Hester—bragwr Llundeinig cefnog o'r enw Henry Thrale (1728–81)—gan ei hewythr Syr Thomas Salusbury. Er i'w mam groesawu'r ieuad, gwrthwynebwyd y briodas gan ei thad, a ddatganai nad oedd am "gyfnewid [ei ferch] am gasgen o gwrw porter". Bu farw John Salusbury yn Rhagfyr 1762, pan oedd ei ferch ar fin troi'n 22 oed, ac felly aeth Hester, ei mam a'i hewythr ati i gytuno ar yr agweddi a'r gwaddol, er nad oedd y briodferch ei hun yn frwdfrydig.[1] Yn y cyfnod hwn, cyhoeddwyd rhai o'i cherddi mewn papurau newydd Llundain, gan gynnwys "Imagination's Search after Happiness" yn The St James's Chronicle (10 Medi 1763).[2] Ar 11 Hydref 1763, priododd Hester Salusbury â Henry Thrale yn Eglwys y Santes Ann, Soho.[1]
Mrs Thrale y salonwraig (1763–84)
golyguGwraig ifanc yn Llundain gyda sicrwydd ariannol oedd Hester Thrale felly. Byddai Henry Thrale yn cael ei ethol i Dŷ'r Cyffredin ym 1765, a daeth y pâr yn gyfarwydd â nifer o enwogion gwleidyddol a diwylliannol y ddinas. Fodd bynnag, nid oedd y briodas yn hynod o serchus, ac yn fuan aeth teimladau Hester yn chwerw. Byddai Henry yn mercheta yn ei dŷ tref yn Southwark yng nghanol y ddinas, tra'n disgwyl Hester i aros yn Streatham Park—plas Sioraidd y teulu Thrale ym mhlwyf Streatham—ac yno i chwarae rhan y wraig ffyddlon a boneddiges groesawgar yr ystâd, ac wrth gwrs i ddarparu etifedd o wryw. Câi Hester ei blino a'i digalonni gan ei dyletswydd briodasol: bu'n feichiog 13 o weithiau rhwng 1764 a 1778, gan esgor ar 12 o fabanod, a bu farw wyth ohonynt yn blant.[1] Nid oedd Henry yn cefnogi ymdrechion ei wraig i gyhoeddi ei hysgrifeniadau, er iddynt cymdeithasu mewn cylchoedd llenyddol,[2] ac nid oedd ychwaith yn caniatáu iddi farchogaeth, am iddo ystyried y gamp honno yn rhy wrywaidd.[1]
Er gwaethaf, daeth Samuel Johnson i ginio yn Ionawr 1765, a ffrwyth y cyfarfod hwnnw oedd derbyniad Hester i gylchoedd llenyddol Lloegr yn yr oes fywiog hon. Bwriodd Johnson haf 1764 gyda'r pâr yng nghefn gwlad, gan fagu perthynas agos rhyngddynt.[3] Am gyfnod byddai Johnson yn treulio hanner o'i amser yn aros yn nhŷ'r Thrales, a gwahoddwyd llu o enwogion a boneddigion yno, yn eu plith James Beattie, Edmund Burke, David Garrick, Oliver Goldsmith, Syr Joshua Reynolds, Charles Burney, a Frances Burney.
Mrs Piozzi ar ei theithiau (1784–1787)
golyguBu farw Henry Thrale ym 1781, gan adael Hester yn weddw gyfoethog 40 oed. Cwympodd Hester mewn cariad â Gabriel Piozzi, canwr a chyfansoddwr Eidalaidd a oedd yn athro cerddoriaeth i'w merch. Priododd Hester â Piozzi ym 1784, ac aethant i'r Eidal am fis mêl. Cafodd y briodas ei anghymeradwyo gan bawb bron o gydnabod Hester, nid lleiaf y Dr Johnson, a fu'n ddigalon ym misoedd olaf ei fywyd o ganlyniad i ymddieithriad ei hen gyfeilles. Wedi i Johnson farw yn Rhagfyr 1784, aeth Hester ati i gasglu ei chofiannau o'u cyfeillgarwch ac anfon y llyfr, Ancedotes of the late Samuel Johnson, LL.D., during the last Twenty Years of his Life (1786), yn ôl i Loegr i'w gyhoeddi. Wedi iddi ddychwelyd i Loegr ym 1787, paratôdd hefyd argraffiad o'i gohebiaeth â Johnson, a gyhoeddwyd mewn dwy gyfrol dan y teitl Letters to and from the late Samuel Johnson, LL.D. (1788). Bu Hester yn cystadlu'n gyhoeddus yn erbyn James Boswell fel prif ladmerydd a chofiannydd y diweddar Dr Johnson.
Llyfryddiaeth
golygu- Thraliana
- The Three Warnings (1766)
- Anecdotes of the late Samuel Johnson (1786)
- Retrospection (1801)
Oriel
golygu-
Portread gan Thomas Holloway, 1786
-
Portread gan Marino Bovi, 1800
-
Portread gan Henry Hoppner Meyer, 1811
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 (Saesneg) Michael J. Franklin, "Piozzi [née Salusbury; other married name Thrale], Hester Lynch (1741–1821), writer", Oxford Dictionary of National Biography (2004).
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Paul Baines, Julian Ferraro a Pat Rogers, The Wiley-Blackwell Encyclopedia of Eighteenth-Century Writers and Writing, 1660–1789 (Chichester: Wiley-Blackwell, 2011), tt. 270–1.
- ↑ (Saesneg) Hester Lynch Piozzi. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Awst 2022.